Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 5 Awst 2020

3 Awst 2020 | gan John Martin | 2 Timotheus 4

A bydd yr Arglwydd eto’n fy ngwaredu i rhag pob cam, a’m dwyn yn ddiogel i’w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo’r gogoniant byth bythoedd! Amen.

2 Timotheus 4:18

 

Pwrpas terfynol dioddefaint

Ddoe, fe edrychon ar y ffaith fod Duw yn ein cadw. Ond ar gyfer beth rydyn ni’n cael ein cadw? Er bod awduron y Testament Newydd yn rhybuddio’r credinwyr y byddai anawsterau lawer ar eu ffordd, maen nhw’n gwasgu arnyn nhw i frwydro ymlaen nes cyrraedd eu nod, y nefoedd. Pan fo pobl wedi’u haileni maen nhw’n gadwedig, yn ddiogel am byth, yn berchen ar fywyd tragwyddol. Fel hyn mae Jwdas (adnod 21) yn eu hannog: “Cadwch eich hunain yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am i’n Harglwydd Iesu Grist yn ei drugaredd roi i chwi fywyd tragwyddol”. Mae eisoes wedi dweud yn ei gyfarchiad eu bod “wedi eu cadw i Iesu Grist”. A dyma eiriau Paul yn ei ail lythyr at Timotheus (4:18): “A bydd yr Arglwydd eto’n fy ngwaredu rhag pob cam, a’m dwyn yn ddiogel i’w deyrnas nefol.” Felly, beth bynnag ein hamgylchiadau presennol, pa well cymhelliad i ymestyn ymlaen tua’n nod.

Rydyn ni wedi’n cadw trwy allu Duw, ond hefyd “trwy ffydd”. Mae gan gredinwyr ran i’w chwarae yn y broses o sancteiddhad. Cofiwch eiriau Jwdas, “Cadwch eich hunain yng nghariad Duw”. Ac mae Ioan yn ei lythyr cyntaf (5:21) yn ein rhybuddio: “Blant, ymgadwch rhag eilunod”. Rhaid i ni roi ein ffordd i’r Arglwydd, meddai Salm 37, ac ymddiried yn ei addewidion. Os byddwn fyw yn ôl gair Duw a chaniatáu i’r Ysbryd Glân ein harwain i wirioneddau’r gair hwnnw, fe’n galluogir i gerdded ymlaen heb roi i fyny.

I Dduw y byddo’r diolch! – “Iddo ef, sydd â’r gallu ganddo i’ch cadw rhag syrthio, a’ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant, iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y byddo gogoniant a mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn yr oesoedd, ac yn awr, a byth bythoedd! Amen” (Jwdas, adnod 24).

John Martin, Eglwys Efengylaidd Llanbed