Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 4 Awst 2020

3 Awst 2020 | gan John Martin | Salm 121

Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno. Yr ARGLWYDD yw dy geidwad, yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw; ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd, na’r lleuad yn y nos. Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw rhag pob drwg, bydd yn cadw dy einioes. Bydd yr ARGLWYDD yn gwylio dy fynd a’th ddod yn awr a hyd byth.

Salm 121:4-8​

 

Cadwch yn ddiogel

Ers dyfodiad pandemig Covid19 mae’r “Da boch!” neu’r “Hwyl fawr!” arferol wrth ymadael wedi’u disodli gan “Cadwch yn ddiogel!” Yn ymwybodol fod ’na elyn cudd sydd â’i effeithiau’n amlwg, yr hyn maen nhw’n ddweud, mewn ffordd, yw “Gwnewch bopeth posibl i gadw’r rheolau; i leihau’r siawns o ddal y salwch peidiwch cymryd unrhyw risg”. Anaml iawn mae eu dymuniad yn golygu “rhowch eich ymddiriedaeth mewn Duw hollwybodol sy’n gweld popeth, Duw y gallwch droi ato unrhyw bryd, gan wybod y bydd yn cadw’r rhai sy’n eiddo iddo”. Dim ond Cristnogion sy’n gwybod pwy sy’n gyfrifol am eu diogelwch. Ac eto, mewn argyfwng gall hyd yn oed gredinwyr golli’u golwg ar yr Un sy’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu gwarchod.

Gallu Duw – Ateb un Cristion rwy’n ’nabod pan fydd rhywun yn gofyn iddo sut mae’n cadw yw: “Rwy’n cael fy nghadw”. Mae’n ateb sydd nid yn unig yn dystiolaeth i ffyddlondeb Duw ond hefyd yn agor drws iddo esbonio’r efengyl. Wrth ysgrifennu at gredinwyr oedd “yn profi blinder…dan amryw brofedigaethau” mae Pedr (1 Pedr 1:6) yn eu hannog i barhau yn y ffydd trwy eu hatgoffa eu bod “dan warchod gallu Duw hyd y daw…yr iachawdwriaeth sydd yn barod i’w datguddio yn yr amser diwethaf” (1:5). Tra’n cydnabod realiti eu hamgylchiadau a’u pryderon mae’n pwysleisio goruchafiaeth Crist ar eu gormeswr a’r ffaith mai “dros dro” y byddai eu trafferthion a hynny er profi dilysrwydd eu ffydd. A dyna bwrpas Duw heddiw – profi’n ffydd a thrwy hynny gyfoethogi’n bywyd ysbrydol. Cyn gorffen ei lythyr (4:19) mae Pedr yn annog y rhai “sy’n dioddef yn ôl ewyllys Duw” i “ymddiried eu heneidiau i’r Creawdwr ffyddlon, gan wneud daioni.” Diolch am eiriau cysurlawn y Salmydd i bobl ei ddydd: “Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel. Yr Arglwydd yw dy geidwad, yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw. Ni’th dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos. Yr Arglwydd a’th geidw rhag pob drwg; efe a geidw dy enaid. Yr Arglwydd a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd” (Salm 121:4-8). Boed iddynt ein cysuro ni heddiw.​

John Martin, Eglwys Efengylaidd Llanbed