Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 20 Awst 2020

19 Awst 2020 | gan William Gurnall | Luc 2

…wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr

Luc 2:10

Newyddion o’r nefoedd

Beth yw ystyr yr Efengyl? Yn ôl y gair gwreiddiol, golyga unrhyw newyddion da neu neges lawen … Ond fel arfer yn yr Ysgrythur mae’n cael ei ddefnyddio i arwyddo athrawiaeth Crist, a’i iachawdwriaeth i bechaduriaid gwael …

Datguddiad Crist, a gras Duw trwyddo, yw’r newyddion gorau a mwyaf llawen y gall pechaduriaid tlawd ei glywed. Mae’n gymaint o newyddion da fel na all unrhyw newyddion da ddod o’i flaen, ac ni all unrhyw newyddion sâl ei dilyn. Ni all unrhyw newyddion da ddod o’i flaen, na, nid oddi wrth Dduw ei hun at y creadur. Ni all roi unrhyw fendith i bechaduriaid tlawd nes ei fod wedi dangos trugaredd i’w heneidiau yng Nghrist … mae Duw yn maddau ac yna mae’n rhoi … Unwaith eto ni all unrhyw newyddion sâl ddod ar ôl newyddion llawen yr Efengyl. Mae trugaredd Duw yng Nghrist yn newid natur pob drygioni y bydd y Cristion yn ei wynebu …

Mae pum cynhwysyn yn ddymunol mewn neges … Yn gyntaf, er mwyn i neges fod yn llawen rhaid iddi fod yn dda. Nid oes unrhyw un yn llawenhau clywed newyddion drwg … Yn ail, mae’n rhaid ei fod yn beth llesol iawn, neu fel arall nid yw’n cael fawr o effaith … Yn drydydd, mae’n rhaid i’r daioni mawr hwn fod yn berthnasol at y rhai sy’n ei glywed … Er ein bod ni’n aml yn llawenhau clywed o ryw ddaioni mawr sydd wedi dod i un arall, mae’n effeithio llawer mwy arnom pan ddaw atom ni … Yn bedwerydd, mae’n ychwanegu at lawenydd y newyddion os daw’r newyddion atom yn sydyn fel syndod … Pumed, i gwblhau’r llawenydd, mae’n fwyaf angenrheidiol bod y newyddion yn wir ac yn sicr. Fel arall bydd yr holl lawenydd drosodd … Mae’r holl gynhwysion hyn yn cwrdd gyda’i gilydd yn hapus yn yr Efengyl, ac yn gwneud i enaid grediniol brofi’r llawenydd uchaf y gall ei serchiadau ei ddwyn.

— William Gurnall, The Christian in Complete Armour, Vol. 1, pp. 479-481 (B.T.)

Allan o Daily Devotions from the Puritans – gan Wasg Bryntirion (awdur I.D.E. Thomas)