Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 19 Awst 2020

18 Awst 2020 | gan Meirion Thomas | Mathew 6

“Ein Tad…”

Mathew 6:9 

Oes ’na berthynas uwch, bwysicach neu fwy cyffrous nag adnabod Duw fel ein Tad nefol? Oes ’na brofiad dyfnach a mwy arswydus na’r realiti o allu galw’r Duw’r Creawdwr mawr, y Barnwr a’r Gwaredwr yn “ein Tad yn y nefoedd”? Mae’r gwirionedd fod Ysbryd Duw yn cyd-dystiolaethu â’m hysbryd i i’m galluogi i lefain “Aba Dad” yn fy narostwng ac yn fy nyrchafu. Tadolaeth Duw sy’n ein huno â’n gilydd wrth i ni gael ein mabwysiadu trwy ras i’w deulu o ffydd. Mae Iesu’n dysgu ei ddisgyblion i weddïo a chydnabod mai Duw yw ein Tad. Rydym i gyd yn rhannu’r fraint o fod mewn cymdeithas â’r “un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb” (Effesiaid 4:6).

Yng nghyd-destun Mathew 5-7 mae Iesu’n cyfeirio at Dduw fel Tad ddwy-ar-bymtheg o weithiau. Y disgrifiad hwn ohono fydd y realiti sylfaenol wrth wraidd galwedigaeth y deuddeg i fod yn ddisgyblion. Mae’n cyfleu dyfnder cariad, ymlyniad ac ymrwymiad Duw i’w blant. Fel Tad nefol mae’n gwybod, yn gofalu, yn darparu, yn arwain ac yn caru mewn ffordd na all un tad daearol fyth wneud. Ein hamcan pennaf ni yw dod yn debycach i’n Tad yn y nefoedd wrth i ni ddygnu ymlaen i fod yn gymeriadau duwiol llawn dwf (‘perffaith’). Fel ein Tad mae wedi rhoi i ni adnoddau ei Air a’i Ysbryd fel rhoddion gwerthfawr i’n symbylu i fod yn dystion – tystion fydd yn cyfeirio eraill at ein Tad fel ffynhonnell pob gweithred dda o’n heiddo sy’n ei ogoneddu Ef.

Mae’n Tad hefyd yn ein disgyblu’n dyner. Mae ei ofal am ein budd a’n lles yn golygu y bydd angen cerydd, cywiro a doethineb tadol. Mae gwybod ewyllys y Tad ac ufuddhau i’w alwad o’r pwys mwyaf wrth i ni barchu ac ofni’r Arglwydd. Bydd ein pechod yn aml yn amharu ar ein cyfeillach â’n Duw Dad. Felly bydd profi ei faddeuant tadol a’i dangnefedd cymodlon dro ar ôl tro yn fendith rad i ni oddi ar ei law. Fel mae tad daearol yn tosturio wrth ei blant mae’r Arglwydd yn tosturio wrthym ni ac fel Tad perffaith yn ein hannog i gredu yn ei ddaioni a’i ras. Yn Iesu mae calon dadol Duw yn cael ei hamlygu yn ei holl dynerwch, tiriondeb a charedigrwydd. Ac mae Iesu’n atgoffa’i ddisgyblion eu bod, oherwydd iddynt ei weld ef, wedi gweld y Tad (Ioan 14:9).

Mwynhau cwmni’n Tad Nefol yw un o bleserau pennaf ein ffydd. Mae siarad ag ef mewn gweddi yn hyfrydwch dyddiol. Mae’r gobaith o fod un dydd yn nhŷ a phresenoldeb ein Tad yn symbyliad i ni geisio ym mhob modd ei blesio. Ac mae gwybod ei fod fel Tad wedi tywallt ei gariad rhyfeddol arnom ac wedi rhoi i ni’r fraint o fod yn feibion a merched yn ogystal ag etifeddion gyda Christ yn golygu ein bod yn ddiogel am amser a thragwyddoldeb. Gadewch i ni heddiw ymhyfrydu yng nghariad ein Tad gan wybod y cawn un dydd wneud hynny am byth.

Dyma fel mae J. I. Packer yn crynhoi pwysigrwydd Tadolaeth Duw yn ei glasur Knowing God:

You sum up the whole of New Testament religion if you describe it as the knowledge of God as one’s holy Father. If you want to judge how well a person understands Christianity, find out how much he makes of the thought of being God’s child, and having God as his Father. If this is not the thought that prompts and controls his worship and prayers and his whole outlook on life, it means that he does not understand Christianity very well at all. For everything that Christ taught, everything that makes the New Testament new, and better than the Old, everything that is distinctively Christian as opposed to merely Jewish, is summed up in the knowledge of the Fatherhood of God. ‘Father’ is the Christian name for God. Our understanding of Christianity cannot be better than our grasp of adoption.

Meirion Thomas, Malpas Road

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf