Felly, bu’r Gyfraith yn was i warchod trosom hyd nes i Grist ddod, ac inni gael ein cyfiawnhau trwy ffydd.
Galatiaid 3:24
Y ddeddf a’r efengyl
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y gyfraith foesol a’r Efengyl? Mae’r gyfraith yn mynnu ein bod ni’n addoli Duw fel ein Creawdwr; yr Efengyl, ein bod yn ei addoli yng Nghrist a thrwyddo. Mae Duw yng Nghrist yn gwenu arnom; y tu allan i Iesu fe welwn allu, cyfiawnder a sancteiddrwydd Duw: ynddo ef gwelwn ei drugaredd yn cael ei harddangos.
Mae’r gyfraith foesol yn gofyn am ufudd-dod, ond nid yw’n rhoi unrhyw gryfder (fel yr oedd Pharo yn disgwyl brics, ond heb roi gwellt), ond mae’r Efengyl yn rhoi nerth; mae’n rhoi ffydd i’r etholedig; mae’n melysu’r gyfraith; mae’n gwneud inni wasanaethu Duw â hyfrydwch.
Yw’r gyfraith foesol felly o ddefnydd i ni? Mae’n wydr i ddangos ein pechodau inni, fel y gallwn, wrth weld ein llygredd a’n trallod, gael ein gorfodi i ffoi at Grist oherwydd ein heuogrwydd, ac i guddio rhag digofaint y dyfodol.
Ond a yw’r gyfraith foesol yn dal mewn grym i gredinwyr? Onid yw wedi cael ei diddymu? Mewn rhyw ystyr fe’i diddymir i gredinwyr, mewn perthynas â chyfiawnhad. Nid ydynt yn cael eu cyfiawnhau gan eu hufudd-dod i’r gyfraith foesol. Gallant wneud defnydd mawr o’r gyfraith foesol, ond rhaid iddynt ymddiried yn unig yng nghyfiawnder Crist am gyfiawnhad. Defnyddiodd colomen Noah ei hadenydd i hedfan, ond dim ond yr arch yr oedd iddi ddiogelwch. Pe gallai’r gyfraith foesol gyfiawnhau, pa angen oedd i Grist farw?
— Thomas Watson, The Ten Commandments, pp. 33-34 (B.T.)
Allan o Daily Devotions from the Puritans – gan Wasg Bryntirion (awdur I.D.E. Thomas)