Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 17 Awst 2020

13 Awst 2020 | gan Thomas Watson | Mathew 6

Felly, gweddïwch chwi fel hyn

Mathew 6:9

Y Weddi Orau

Yn y geiriau hyn, rhoddodd ein Harglwydd Iesu gyfeirlyfr ar gyfer gweddi i’w ddisgyblion ac i ni. Y deg gorchymyn yw rheol ein bywyd, y gredo yw swm ein ffydd, a gweddi’r Arglwydd yw patrwm ein gweddi. Fel y gwnaeth Dduw ragnodi patrwm y tabernacl i Moses (Exod. 25:9), felly mae Crist wedi rhagnodi patrwm gweddi inni – ‘Felly, gweddïwch chwi fel hyn’, ac ati. Gadewch i hyn felly fod y rheol a model i fframio ein gweddïau … Nid ein bod wedi ein clymu â geiriau gweddi’r Arglwydd. Nid yw Crist yn dweud, ‘Felly, gweddïwch chwi hyn’; ond ‘fel hyn’: hynny yw, gadewch i’ch holl ddeisyfiadau gytuno â’r pethau a gynhwysir yng ngweddi’r Arglwydd; bydd yn dda inni wneud ein holl weddïau yn gytseiniol ac yn gytûn â’r weddi hon …

Mae gan ddarn o waith gymeradwyaeth gan ei grëwr, ac mae gan y weddi hon gymeradwyaeth gan ei hawdur; gweddi’r Arglwydd ydyw. Gan fod y gyfraith foesol wedi’i hysgrifennu â bys Duw, felly ynganwyd y weddi hon o wefusau Mab Duw. Fel y caiff Caniad Solomon ragoriaeth a’i galw yn ‘Gân y Caneuon’, felly mae’n ddigon posib y dylid galw hon yn ‘Weddi’r Gweddïau’.

Cawn fudd dwbl o ddilyn patrwm y weddi hon.

  1. Mae gwallau mewn gweddi yn cael eu hatal. Nid yw’n hawdd ysgrifennu’n anghywir ar ôl y copi hwn; ni allwn gyfeiliorni yn hawdd pan fydd ein patrwm mor glir.
  2. Ceir y trugareddau y gofynnwyd amdanynt; oherwydd mae’r apostol yn ein sicrhau y bydd Duw yn ein clywed wrth weddïo ‘yn ôl ei ewyllys’ (1 Ioan 5:14). Ac rydym yn sicr yn gweddïo yn ôl ei ewyllys wrth weddïo yn ôl y patrwm y mae wedi’i anfon atom.

 

— Thomas Watson, The Lord’s Prayer (B.T.)

Allan o Daily Devotions from the Puritans – gan Wasg Bryntirion (awdur I.D.E. Thomas)​