Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 16 Awst 2020

13 Awst 2020 | gan Meirion Thomas | Colosiaid 2

Felly, gan eich bod wedi derbyn Crist Iesu, yr Arglwydd, dylech fyw ynddo ef. Cadwch eich gwreiddiau ynddo, gan gael eich adeiladu ynddo, a’ch cadarnhau yn y ffydd fel y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch

Colosiaid 2:6-7

 

Cyffesu Arglwyddiaeth Crist yw un o freintiau a phleserau pennaf ein ffydd. Yn wir, ’does ’na’r un ffordd arall i dderbyn a chydnabod Iesu ond fel Arglwydd. Cydnabod ei hawl a’i reolaeth lwyr a chyflawn ar fy mywyd yw sail gwir ffydd. Mae hyn wedyn yn parhau i ddatblygu, dyfnhau ac atgyfnerthu wrth i fi dyfu ac aeddfedu fel crediniwr a gwerthfawrogi’n ddiolchgar bopeth mae wedi’i wneud drosof. Yng nghyd-destun Colosiaid 1:15-23 gwelwn gwmpas, goruchafiaeth a chyflawnder Arglwyddiaeth sofran Crist wrth i Paul ganolbwyntio ar berson a gwaith Iesu.

  1. Arglwydd Datguddiad. Yng Nghrist mae’r Duw anweledig yn cael ei ddatguddio a’i lwyr ddadlennu. Mae’r Duw anweledig yn cael ei wneud yn hysbys yn Iesu. “Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw ac y mae yn wir lun ei berson…” (Hebreaid 1:3). Ac meddai Iesu ei hun wrth ei ddisgyblion: “Y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad” (Ioan 14:9).
  2. Arglwydd y Greadigaeth. Fel Gair Duw ef oedd cyfrwng pob peth a grëwyd yn y nef ac ar y ddaear. Canlyniad uniongyrchol gallu creadigol a chynhaliol Iesu yw pob microcosm, pob macrocosm a phob gronyn o bob peth gweledig ac anweledig. Mae popeth hardd a welwn yn natur o’n hamgylch a phob agwedd o’r creu yn ei synau a’i arogleuon yn datgan yn glir mai “Iesu yw’r Iôr!”.
  3. Arglwydd Hanes. ‘History is His story’. Mae codiad a chwymp “gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau…” yn ddarostyngedig i reolaeth sofran ein Harglwydd a’n Brenin. Mae pob datblygiad yn hanes gwareiddiadau, eu teyrnasoedd a’u llwythau, yn gyfyngedig i ewyllys Mab Duw. Dim ond rhan fyrhoedlog mae ymerawdwyr, brenhinoedd a breninesau, arlywyddion a phrifweinidogion yn ei chwarae o’i chymharu â’i reolaeth a’i feistrolaeth ef. Ei ragluniaeth ef sy’n arwain, goruchwylio ac arolygu pob gallu cosmig, pob digwyddiad teuluol, pob cymuned, pob cenedl a phob mudiad rhyngwladol. Felly, nid damwain neu anhrefn (chaos) neu siawns yw hanes ond llif amcan ac ystyr yn cyrraedd eu huchafbwynt yng Nghrist. Mae fy hanes personol i wedi’i ysgrifennu ganddo ef ac erddo ef.
  4. Arglwydd pob Sylwedd. Mae Ef yn dragwyddol a diddarfod – “cyn pob peth” – ac mae holl gylch realiti yn ddiogel a sicr yn ei ddwylo grymus. Felly ystyr a phwrpas pob peth yw gogoneddu a dyrchafu’r Un “y mae pob peth yn cyd-sefyll” ynddo (1:17). ’Does ryfedd i’r diwinydd a chyn-brifweinidog yr Iseldiroedd, Abraham Kuyper, ddatgan – “There is not a square inch in the whole domain of our human existence over which Christ, who is Sovereign over all, does not cry, Mine!” Mae ein haddysg, hamdden, gwyddoniaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a phob disgyblaeth ddynol arall i gael ei stampio gyda ‘fel i’r Arglwydd’.
  5. Arglwydd yr Eglwys. Mae corff Crist yn cael ei reoli gan ein Brenin gorseddog. Mae pob aelod, pob digwyddiad, pob cynulliad, pob arweinydd, pob sacrament, ein hefengylu a’n cenhadu i gyd dan ei arglwyddiaeth gariadus. Cymdeithas yw’r eglwys sydd â’r Iesu, fel ei harweinydd gofalus a digymar, yn ei chyfarwyddo ac yn darparu ar gyfer ei holl raid yn ogystal â’i chynysgaeddu a’i donio ar gyfer y gwaith o wasanaethu a gweinidogaethu.
  6.  Arglwydd Bywyd. Trwy ei atgyfodiad buddugoliaethus dros angau, ef yw cyntaf-anedig brodyr a chwiorydd lawer. Rydym ni, ar gyfrif ei rodd o fywyd tragwyddol, yn gyfrannog o oruchafiaeth ei fywyd gorchfygol ac edrychwn ymlaen mewn llawn hyder ffydd at fywyd diddarfod.
  7. Arglwydd Cymod. Oherwydd digonolrwydd ei ddioddefaint a’i aberth corfforol, oherwydd iddo wneud “heddwch trwy ei waed ar y groes” (1:20), rydym wedi’n symud o safle o elyniaeth i agosrwydd, harmoni ac undod â’r Arglwydd. Do, fe’n gwaredodd, fe’n prynodd, a rhoes i ni faddeuant pechodau (1:13-14).

 

Yr holl wahanol agweddau hyn ar arglwyddiaeth Crist yw sail ein bywyd Cristnogol; hwy sy’n dyfnhau yn ogystal ag adeiladu ein ffydd. Mae bod wedi’n cysylltu a’n huno â’n Harglwydd byw yn golygu bod yn gyfrannog o holl adnoddau ei allu. Dylai adnod 2:10 ein syfrdanu – “Yr ydych wedi eich dwyn i gyflawnder ynddo ef.” Gadewch i’n bywydau orlifo â diolchgarwch wrth i ni gyffesu Iesu fel “fy Arglwydd a’m Duw” (Ioan 20:28).

Meirion R. Thomas, Malpas Road Evangelical Church​