Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 14 Awst 2020

13 Awst 2020 | gan Thomas Manton | 2 Corinthiaid 1

Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy’n trugarhau a’r Duw sy’n rhoi pob diddanwch.

2 Corinthiaid 1:3

 

Mae’n rhoi Cysur

Gwelwn yn y corff, os bydd unrhyw aelod yn cael ei frifo, bod y gwaed yn rhedeg ar unwaith i gysuro’r rhan glwyfedig. Mae’r dyn ei hun, llygad, tafod a llaw yn ymwneud yn gyfan gwbl â’r aelod clwyfedig hwnnw, fel petai’n anghofio’r gweddill i gyd. Felly yn y teulu, os yw un o’r plant yn sâl, mae holl ofal a charedigrwydd y fam yn canolbwyntio ar y plentyn sâl hwnnw, i’r graddau bod pawb arall yn medru dechrau cenfigennu’r salwch. Os yw natur yn gwneud hynny, oni wnaiff Duw sef awdur natur, lawer mwy? Oherwydd os yw mam ddaearol yn ymateb yn y ffordd honno i blentyn sâl a dioddefgar, oni fydd y Tad Nefol, sydd â chariad anfeidrol, anhygoel a thyner tuag at ei bobl yn gwneud yn fwy?

Dyma’r gwahaniaeth rhwng Duw a’r byd. Mae’r byd yn rhedeg ar ôl y rhai sy’n llawenhau mewn llwyddiant, wrth i’r afonydd redeg i’r môr lle mae digon o ddŵr yn barod. Ond mae Duw yn ein cysuro yn ein gorthrymderau. Mae’n ‘cysuro’r rhai sy’n cael eu bwrw i lawr.’ Mae’r byd yn cefnu ar y rhai sydd mewn tlodi, gwarth ac eisiau; ond mae Duw yn addo’i bresenoldeb iddyn nhw fel y gallant fod sanctaidd, addfwyn ac amyneddgar gan ddwyn y cystuddiau y mae’n eu gosod arnyn nhw. Ac mae un diferyn o’r mêl hwn yn ddigon i felysu’r cwpan chwerwaf. Os bydd Duw gyda ni, ac os bydd pŵer Crist yn gorffwys arnom, yna gallwn hyd yn oed ogoneddu mewn gwendidau, fel y gwnaeth Paul.

— Thomas Manton, A Homiletic Encyclopedia, p. 202 (H.E.)

Allan o Daily Devotions from the Puritans – gan Wasg Bryntirion (awdur I.D.E. Thomas)​