Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod, ond y wraig sy’n ofni’r ARGLWYDD, y mae hon i’w chanmol.
Diarhebion 31:30
Gan fod gennym lawer o gyfranwyr ar wyliau, rydym wedi penderfynu, dros yr wythnosau nesaf i anfon defosiynau o Daily Devotions from the Puritans – llyfr Gwasg Bryntirion (1997) gan I.D.E. Thomas.
Arglwydd, gwna fi’n hardd oddi mewn
Ai prydferthwch sy’n eich gwneud yn falch? Rwyf wedi dweud wrthych beth fydd salwch a marwolaeth yn ei wneud i harddwch o’r blaen. ‘Pan gosbi rywun â cherydd am ddrygioni, yr wyt yn dinistrio’i ogoniant fel gwyfyn; yn wir, chwa o wynt yw pawb’ (Salm 39:11).
Ac os byddai’ch harddwch yn parhau, faint o ddaioni a fydd i chi? A phwy ond ffŵl sy’n penderfynu gwerth creadur drwy edrych ar ei groen yn unig?
Gall ffŵl, neu gaethwas i bechod, neu Satan ei hunan fod yn brydferth. Gellir addurno bedd yn brydferth ond pwdr sydd oddi mewn. A ddewiswch y pwrs mwyaf prydferth, neu’r llawnaf? Pwy ond plentyn neu ffŵl fydd yn gwerthfawrogi ei lyfr yn ôl coethder y clawr, neu goreuri’r tudalennau, ac nid yn ôl gwerth y mater oddi mewn? Roedd Absalom yn brydferth, a beth ddigwyddodd iddo fe?
– Richard Baxter, A Homiletic Encyclopedia, t. 435 (Н.Е.)