Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 12 Awst 2020

11 Awst 2020 | gan Bill Hughes | Datguddiad 12

Am hynny, gorfoleddwch, chwi’r nefoedd, a chwi sy’n preswylio ynddynt! Gwae chwi’r ddaear a’r môr, oherwydd disgynnodd y diafol arnoch yn fawr ei lid, o wybod mai byr yw’r amser sydd ganddo!

Datguddiad 12:12

 

Mae angen atgoffa pob un ohonom sy’n proffesu bod yn Gristnogion ac yn rhan o eglwys Crist yn gyson fod gennym elyn. Rydyn ni i gyd yn gwybod hyn mewn theori, o brofiad, ac o ddysgeidiaeth yr Ysgrythur. Ac eto mae angen ein hatgoffa o hyd bod y diafol yn dwyllwr, yn gyhuddwr, ac yn ddinistriwr nad yw byth yn rhoi’r gorau iddi. Os na all ddinistrio ein ffydd, bydd yn gwneud popeth yn ei allu i’w ysgwyd a throi ein llygaid oddi wrth Dduw, a gall ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyflawni hynny.

Mae’n gwneud ei waith dinistriol ym mhob agwedd o’n bywydau. Yn ein moesau a’n purdeb personol; yn y gweithle ac yn ein cyfeillgarwch cymdeithasol a’n perthnasoedd yn yr eglwys. Yn aml mae angen dirnadaeth fawr i weld beth sy’n digwydd yn ein bywydau mewn gwirionedd. Ar adegau mae’n rhaid i ni wrthsefyll y diafol mewn gweithred benodol o ffydd a gweddïo am fuddugoliaeth drosto. Ar adegau eraill mae’n rhaid i ni ymostwng i’r profiad anodd, pa mor anodd bynnag y bo hynny, gan gredu y bydd y canlyniad yn fodd i fendithio. Weithiau mae’n rhaid i ni gerdded ar ein pennau ein hunain yn nhywyllwch y profiadau hyn, heb allu eu rhannu ag unrhyw un, ac ar adegau eraill mae gweddïau ein brodyr a chwiorydd yn yr eglwys yn hanfodol.

Nid yw ein gelyn mawr yn ildio, ond nid oes angen i ni anobeithio oherwydd mae gennym fuddugwr gogoneddus sydd wedi ei drechu. Ganwyd ein Harglwydd Iesu nid yn unig er mwyn marw drosom ac atgyfodi – cafodd ei demtio drosom hefyd. Mae’r diafol yn gwybod ei fod yn elyn wedi’i drechu yn y pen draw ac mae’n gwybod bod ei amser yn brin. Ychydig o amser sydd ganddo ar ôl i wneud ei waith drwg, ond mae gennym ni amser a thragwyddoldeb i foli Duw a’i wasanaethu a mwynhau Ei bresenoldeb a’i fendith.

Boed i’r Arglwydd Iesu ein helpu i ddal ati i wrthsefyll y diafol ym mhob rhan o’n bywydau tan y diwrnod gogoneddus hwnnw pan fydd y frwydr drosodd, ac ni fydd yn rhaid i ni ddelio ag ef yn y gogoniant mwyach.

Yr eiddoch yn gywir,
Bill Hughes