“Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn paratoi gwledd o basgedigion i’r bobl i gyd, gwledd o win wedi aeddfedu, o basgedigion breision a hen win wedi’i hidlo’n lân.”
Eseia 25:6
Ers wythnos diwethaf, ar ddiwrnodau neilltuol gallwch gael taleb (voucher) i hawlio gostyngiad ar bris eich pryd allan. Dyma un o gynlluniau haelfrydig canghellor y trysorlys i adfywio’r economi, yn enwedig y diwydiant bwyd. Mae llawer wedi colli ymweld â bwytai a mwynhau ambell bryd allan. Mae bwyd a bwyta yn ganolog i bob cymdeithas a diwylliant – o curries India, chow meins Asia, pizza a lasagne yr Eidal i bice ar y ma’n a chawl Cymru fach, mae’r danteithion hyn yn ein cydglymu mewn cyfeillgarwch a gwerthfawrogiad o’n prydau cyffredin. Rwy’n siŵr fod gyda ni i gyd atgofion melys o fod o gwmpas y bwrdd brecwast, cinio neu swper, ar bicnic neu mewn parti, yn mwynhau nid yn unig y bwyd o’n blaen ond cwmnïaeth gynnes teulu a ffrindiau.
O ddechrau’r Beibl, Genesis 2:16, lle mae’r Arglwydd yn gorchymyn “Cei fwyta’n rhydd…” i “wledd briodas yr Oen” yn Datguddiad 19:9 mae’r Ysgrythur yn gadarnhaol ynglŷn â bwyd fel modd i ddathlu gras a darpariaeth hael – naturiol ac ysbrydol – Duw. Ar noson fawr y Pasg roedd ’na bryd o oen wedi’i rostio, llysiau chwerw a bara croyw. Yn ystod y crwydro yn yr anialwch roedd ’na soflieir a manna. Er mor ddwys yr achlysur o dderbyn y gyfraith a chyfamod yr Arglwydd ar Sinai, cafodd y bobl “weld Duw a bwyta ac yfed” (Exodus 24:11). Gwlad yn llifeirio o laeth a mêl oedd Canaan, gwlad yr addewid. Yn Salm 23:5 mae’r Arglwydd yn addo diogelu ac “arlwyo bwrdd o’m blaen yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr.” Yn Nehemeia 8:12, a’r bobl wedi dychwelyd o gaethglud Babilon, darllenwn: “Aeth pawb i ffwrdd i fwyta ac yfed ac i rannu ag eraill ac i orfoleddu, oherwydd yr oeddent wedi deall yr hyn a ddywedwyd wrthynt.” A phwy all anghofio gwahoddiad Eseia: “Dewch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, dewch, er eich bod heb arian; prynwch a bwytewch. Dewch, prynwch win a llaeth, heb arian ac heb dâl. Paham y gwariwch arian ar yr hyn nad yw’n fara, a llafurio am yr hyn nad yw’n digoni? Gwrandewch arnaf yn astud, a chewch fwyta’r hyn sydd dda, a mwynhau danteithion” (Eseia 55:1-2).
Felly, heddiw, “Profwch a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd”. Mwynhewch wledd yr efengyl. Trwy ffydd porthwch eich meddwl a’ch calon ar ddeiet iachusol gwirionedd y Beibl. Bodlonwch eich archwaeth, eich newyn a’ch syched wrth i chi gymdeithasu â’n Gwaredwr Iesu.
Meirion Thomas, Malpas Road