Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Galwad MEC i Weddi – 9 Gorffennaf 2020

3 Gorffennaf 2020 | gan Mark Thomas | 1 Corinthiaid 1

Galwad MEC i Weddi Haf 2020

MAE’R YSBRYD GLÂN YN DANGOS CRIST I’W BOBL

Rhaid i ni droi at yr Ysbryd i weld beth sy’n bwysig ac yn hanfodol ar hyn o bryd, ac i geisio cymorth a doethineb. Efallai y bydd yr ateb yn ein synnu wrth iddo ddatgelu Crist inni.

Ond pethau ffôl y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio’r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio’r pethau cedyrn, a phethau distadl y byd, a phethau dirmygedig, a ddewisodd Duw, y pethau nid ydynt, i ddiddymu’r pethau sydd. Ac felly, ni all neb ymffrostio gerbron Duw. Ond trwy ei weithred ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw, yn gyfiawnder a sancteiddhad a phrynedigaeth. Felly, fel y mae’n ysgrifenedig, “Y sawl sy’n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.”

1 Corinthiaid 1:28-31

 

Yn Ioan 14-16, mae’r Arglwydd yn paratoi ei ddisgyblion ar gyfer ei ymadawiad, trwy’r groes, i’r nefoedd. Mae’n dweud wrthynt ei fod er mantais iddynt ei fod am ymadael, oherwydd yna bydd yr Eiriolwr yn dod atynt.

Trwy ei Ysbryd y daw Crist atom – ni fydd yn ein gadael yn amddifad. Mae’r Ysbryd Glân yn dod yn lle Crist, ond hefyd, mae’n dwyn tystiolaeth i Grist. Fel llifoleuadau yn goleuo adeilad hardd, mae’r Ysbryd Glân yn datgelu Crist i’w bobl – mae’n hoelio ein llygaid arno.

Mae Duw am i “bawb anrhydeddu’r Mab, yn union fel y maent yn anrhydeddu’r Tad” (Ioan 5:23). Dyma sy’n digwydd yn ein bywydau pan mae’r Ysbryd Glân yn cymryd pethau Crist, ac yn eu datgan i ni. Weithiau mae’n dangos pethau newydd inni, gan agor ein meddyliau i ddeall gwirioneddau o’i Air na welsom erioed o’r blaen. Weithiau mae’n dangos gwirioneddau i ni am Grist rydyn ni wedi’u gwybod a’u caru ers amser maith, ond maen nhw’n dod atom ni gydag eglurder newydd a phŵer trawsnewidiol.

Person a gwaith ein Harglwydd yw swm a sylwedd yr efengyl, “Iesu Grist ac yntau wedi ei groeshoelio.” Ef hefyd yw’r gwir fanna sy’n dod i lawr o’r nefoedd sy’n bwydo ein heneidiau. Heb Grist, nid oes gennym ddim, a phan fydd ein golwg ar Grist yn pylu, bydd ein heneidiau yn sych ac yn ddifywyd. Ond yng Nghrist mae digonedd, “Oherwydd gwelodd Duw yn dda i’w holl gyflawnder breswylio ynddo ef,” (Colosiaid 1:19), “Ac o’i gyflawnder rydyn ni i gyd wedi derbyn gras ar ben gras” (Ioan 1:16).

Beth bynnag yw ein hangen, rydym yn cael ateb yr angen yng Nghrist, “yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw, yn gyfiawnder a sancteiddhad a phrynedigaeth”.

Gweddïwch y bydd yr Arglwydd yn anfon ei Ysbryd i ddangos mwy o Grist i ni.

Mark Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol MEC