Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Galwad MEC i Weddi – 8 Gorffennaf 2020

3 Gorffennaf 2020 | gan Mark Thomas | Hebreaid 11

Galwad MEC i Weddi Haf 2020

DEALLWN ARWYDDOCÂD TRAGWYDDOLDEB

Un o bosibiliadau mawr yr amser hwn yw bod pobl yn dechrau meddwl am dragwyddoldeb a’i arwyddocâd.

Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham i’r alwad i fynd allan i’r lle yr oedd i’w dderbyn yn etifeddiaeth; ac fe aeth allan heb wybod i ble’r oedd yn mynd. Trwy ffydd yr ymfudodd i wlad yr addewid fel i wlad estron, a thrigodd mewn pebyll, fel y gwnaeth Isaac a Jacob, cydetifeddion yr un addewid. Oherwydd yr oedd ef yn disgwyl am ddinas ac iddi sylfeini, a Duw yn bensaer ac yn adeiladydd iddi.

Hebreaid 11:8-10

 

Mae bywyd yn fyr ac yn ansicr, ond mae tragwyddoldeb o’n blaenau ni i gyd. Mae’r Beibl yn glir nad oes ond dau gyrchfan dragwyddol: nefoedd lle’r ydym gyda’r Arglwydd am byth yn llawenhau ym maddeuant ein pechodau, neu uffern lle rydyn ni’n cael ein bwrw allan o’i bresenoldeb yn dragwyddol ac yn dwyn cosb gyfiawn ein pechodau. Cyn lleied o sylw mae pobl yn ei roi i dragwyddoldeb!

Mae’r Arglwydd Iesu wedi paratoi lle yn y nefoedd i bob Cristion. Bydd gweld ei wyneb a chael ein gwneud yn debyg iddo, yn lawenydd y tu hwnt i unrhyw beth y gallwn ei ddirnad – mae’n gwneud holl ddioddefiadau ein bywydau presennol yn werth chweil (Rhufeiniaid 8:18).

Ond nid yw cael holl bethau’r byd hwn yn werth ein colli am dragwyddoldeb – dyna fyddai trasiedi y tu hwnt i’n dychymyg, “Oherwydd beth fydd elw i ddyn os bydd yn ennill y byd i gyd, ac yn colli ei enaid ei hun?” (Marc 8:36).

Yn y byd hwn y penderfynir ar ein tynged dragwyddol. Os cawn ein hachub yn y byd hwn, rydym yn ddiogel am dragwyddoldeb (Ioan 5:24), ond os ydym yn marw y tu allan i Grist, rydym ar goll am byth: mae “agendor llydan” (Luc 16:26).

I Gristnogion, mae gogoniant tragwyddoldeb yn sbardun i sancteiddrwydd (1 Ioan 3:2-3), ac mae agosrwydd tragwyddoldeb yn ein hannog i wasanaeth (Ioan 9:4). I anghredinwyr, dylai realiti tragwyddoldeb fod yn ddychryn sy’n arwain at geisio’r Arglwydd am drugaredd ac i wrando ar wahoddiad yr efengyl, “Heddiw, os byddwch yn clywed Ei lais, Peidiwch â chaledu eich calonnau” (Hebreaid 4:7).

Gweddïwch y byddai ymwybyddiaeth o dragwyddoldeb yn ein heglwysi a’n cenedl.

Mark Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol MEC