Galwad MEC i Weddi Haf 2020
GWYDDOM FOD Y BYD O DAN FELLTITH
Mae dioddefaint yn y byd hwn yn ein rhybuddio am y dioddefaint mwy sy’n wynebu pawb sy’n gwrthod Crist.
Dywedodd wrth y wraig: “Byddaf yn amlhau yn ddirfawr dy boen a’th wewyr; mewn poen y byddi’n geni plant. Eto bydd dy ddyhead am dy ŵr, a bydd ef yn llywodraethu arnat.” Dywedodd wrth Adda: “Am iti wrando ar lais dy wraig, a bwyta o’r pren y gorchmynnais i ti beidio â bwyta ohono, melltigedig yw’r ddaear o’th achos; trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd. Bydd yn rhoi iti ddrain ac ysgall, a byddi’n bwyta llysiau gwyllt. Trwy chwys dy wyneb y byddi’n bwyta bara hyd oni ddychweli i’r pridd, oherwydd ohono y’th gymerwyd; llwch wyt ti, ac i’r llwch y dychweli.”
Genesis 3:16-19
Mae’r hyn yr ydym yn ei weld o’n cwmpas heddiw yn wahanol i’r greadigaeth dda a grewyd gan Dduw yn y dechrau. O ganlyniad i bechod Adda, fe felltithiodd Duw y byd ac effeithiwyd ar bopeth er gwaeth: nid yw prosesau naturiol fel genedigaeth bellach yn hawdd, mae gwrthryfel rhwng pobl, mae’r greadigaeth yn cynhyrchu drain ac ysgall, mae gwaith yn galed ac mae bywyd yn gorffen mewn marwolaeth.
Mae gras Duw yn golygu bod yna lawer o bethau da ar y ddaear, ond nid oes iwtopia i’w cael ar y ddaear hon. Ni all dynolryw wneud unrhyw beth i gael gwared ag effeithiau’r felltith – bydd tristwch, dioddefaint a chaledi yn brofiad i bawb, boed credinwyr neu anghredinwyr.
Rhagflas o farn Duw yw’r felltith. Yn Luc 13, dywedir wrthym fod Pilat wedi llofruddio rhai Galileaid yn greulon, a bod twr wedi cwympo yn Siloam ac wedi lladd deunaw o bobl. Dywed ein Harglwydd wrthym na ddigwyddodd hyn oherwydd fod y rhai a fu farw yn bechaduriaid mwy na’r lleill o’u cwmpas. Yn hytrach, mae drwg bwriadol a dinistr damweiniol yn dweud wrth bob un ohonom, “oni bai eich bod yn edifarhau byddwch chi i gyd yn yr un modd yn darfod.” Mae barn yn dod na all yr un ohonom ei hosgoi, ac mae angen i ni fod yn sicr mai Crist yw ein Gwaredwr fel na fyddwn yn darfod ar y diwrnod hwnnw.
Ydych chi wedi meddwl erioed, bod y felltith yn dangos trugaredd Duw? Yn hytrach na dod â’r byd i ben pan bechodd Adda, caniataodd Duw i’r byd barhau gyda phethau sy’n ein hatgoffa am y difrod y mae pechod yn ei achosi a’r faith fod barn yn anochel – er mwyn inni gael cyfle i edifarhau.
Trwy Iesu Grist mae osgoi’r felltith. Daeth yn wrthrych y felltith er ein mwyn ni (Galatiaid 3:13), gan ddwyn cosb lawn y gyfraith am bechodau ei bobl. Mae diwrnod yn dod pan ni fydd mwy o felltith (Datguddiad 22:3) – bydd pechod, dioddefaint a thristwch yn cael eu dileu am byth.
Yn yr argyfwng presennol, gweddïwch y bydd pobl yn rhoi’r gorau i chwilio am eu nefoedd ar y ddaear, ac yn troi mewn edifeirwch at Dduw.
Mark Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol MEC