Galwad MEC i Weddi Haf 2020
MAE GENNYM Y FRAINT O GEISIO DUW
Gall bwlch ddatblygu’n gyflym rhwng yr hyn rydyn ni’n ei gredu a sut
rydyn ni’n byw ein bywydau. Gall hyn fod yn arbennig o wir pan ddywedwn ein bod yn ceisio’r Arglwydd.
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a’m tarian; ynddo yr ymddiried fy nghalon; yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon, a rhof foliant iddo ar gân. Y mae’r ARGLWYDD yn nerth i’w bobl ac yn gaer gwaredigaeth i’w eneiniog.
Salm 28:7-8
Pa mor aml rydyn ni’n anghofio nad yw Duw yn ddyledus i ni, ac fel pechaduriaid nad oes gennym ni’r hawl i agosáu ato hyd yn oed! Mae Duw yn bur ac yn sanctaidd, ond yn yr Arglwydd Iesu Grist, rydyn ni a’n gweddïau yn cael ein glanhau gan ei waed fel y gallwn agosáu heb ofn. Pan geisiwn Dduw rhaid inni wneud hynny â dwylo glân a chalon bur, gan ddarostwng ein hunain o dan ei law nerthol, er mwyn iddo ein dyrchafu mewn amser cyfaddas.
Mae ceisio Duw yn golygu dymuno ei bresenoldeb gyda ni, ac i’w ewyllys i gael ei wneud yn ein bywydau ac yn ein byd. Mae’r Beibl yn llawn anogaethau i geisio Duw, fel “Rwy’n caru’r rhai sy’n fy ngharu i, a bydd y rhai sy’n fy ngheisio’n ddiwyd yn dod o hyd i mi” (Diarhebion 8:17). Pan geisiwn Dduw, dylem wneud hynny’n eofn, gan wybod ei fod yn llawn trugaredd a gras (Hebreaid 4:16). Yr hwn sydd â’r Mab sydd â bywyd, a chydag ef bydd Duw yn rhoi pob peth arall inni.
Nid y peth mwyaf rhyfeddol yw ei fod yn addo gras a thrugaredd, yn hytrach, mae’n addo dod atom ni ei hunan. Ni allwn fyth wahanu bendith yr Arglwydd oddi wrth yr Arglwydd ei hun – daw’r bendithion atom yn ei law ei hun.
Mae’r Arglwydd yn fwy na’i fendithion, ac am fraint ein bod yn gallu ei geisio, gan wybod y bydd y Tad a’r Mab, trwy’r Ysbryd Glân, yn dod i wneud eu cartref gyda ni.
Gweddïwch y bydd yr Arglwydd yn rhoi baich inni ei adnabod ac i’w ewyllys gael ei wneud ar y ddaear fel y mae yn y nefoedd.
Mark Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol MEC