Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Galwad MEC i Weddi – 5 Gorffennaf 2020

3 Gorffennaf 2020 | gan Mark Thomas | Rhufeiniaid 8

Galwad MEC i Weddi Haf 2020

MAE GENNYM Y FRAINT O ADNABOD DUW

Yn ystod y dyddiau hyn rydym wedi wynebu llawer o ansicrwydd, ond gadewch i’r ansicrwydd hyn ein helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n sicr, a’r fraint anhygoel o adnabod Duw.

Y mae pawb sy’n cael eu harwain gan Ysbryd Duw yn blant Duw. Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto’n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain, “Abba! Dad!” Y mae’r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod yn blant i Dduw. Ac os plant, etifeddion hefyd, etifeddion Duw a chydetifeddion â Christ, os yn wir yr ydym yn cyfranogi o’i ddioddefaint ef er mwyn cyfranogi o’i ogoniant hefyd.

Rhufeiniaid 8:14-17

 

Pan fyddwn yn ystyried mawredd Duw, gall ymddangos fel haerllugrwydd neu gwallgofrwydd i honni ei adnabod mewn ffordd real a phersonol. Ond y gwir yw bod bywyd tragwyddol yn golygu adnabod yr unig wir Dduw ac Iesu Grist yr un y mae wedi ei anfon (Ioan 17:3). Mae’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân yn trigo mewn perthynas dragwyddol, ddigyfnewid o gariad ac hyfrydwch. Ac yn yr efengyl rydyn ni’n cael ein dwyn i’r berthynas honno!

Mae bod yn blentyn i Dduw yn golygu ein bod ni’n rhannu yng nghymeriad y Tad. Rydyn ni’n dod yn debyg iddo yn yr enedigaeth newydd, ac rydyn ni’n tyfu i fod yn debycach iddo mewn sancteiddrwydd nes y byddwn yn cael ein gwneud yn hollol debyg iddo pan fydd yr Arglwydd Iesu Grist yn dychwelyd.

Mae cael ein mabwysiadu yn blant i Dduw yn golygu ein bod ni’n rhannu yn yr holl freintiau y mae’r Arglwydd Iesu Grist wedi’u sicrhau inni. Fe’n derbynnir yn yr Anwylyd, mae’r Tad yn gofalu amdanom ac yn darparu ar ein cyfer, a gallwn fynd ato mewn gweddi yn hyderus. Ni fydd byth yn ein gwrthod nac yn ein condemnio – ni ellir byth dorri’r cysylltiadau teuluol, y cyswllt gwaed.

Mae byw fel plentyn i Dduw yn y byd hwn, yn golygu wynebu’r un dioddefaint ag yr oedd y Mab yn ei wynebu, ond fel cyd-etifeddion â Christ byddwn yn rhannu ei etifeddiaeth dragwyddol mewn gogoniant hefyd. Ac uchafbwynt sicrwydd Cristnogol yw gwybod, yn ein calonnau, ein bod ni’n blant i Dduw (Rhufeiniaid 8:15-16).

Gweddïwch y bydd yr Arglwydd yn helpu Cristnogion yng Nghymru i fyw yng ngoleuni’r fraint o’i adnabod, ac i brofi sicrwydd am eu hiachawdwriaeth.

Mark Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol MEC