Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Galwad MEC i Weddi – 4 Gorffennaf 2020

3 Gorffennaf 2020 | gan Steffan Job | Salm 63

Galwad MEC i Weddi Haf 2020

Beth ar y ddaear sy’n digwydd?

O Dduw, ti yw fy Nuw, fe’th geisiaf di; y mae fy enaid yn sychedu amdanat, a’m cnawd yn dihoeni o’th eisiau, fel tir sych a diffaith heb ddŵr. Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr, a gweld dy rym a’th ogoniant. Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd; am hynny bydd fy ngwefusau’n dy foliannu.

Salm 63:1-3

 

Mae’n debyg eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwnnw lawer gwaith dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Yn sicr, rwyf wedi ei ofyn yn rheolaidd: wrth geisio prynu rholiau toiled, yn ystod sesiynau briffio’r Prif Weinidog, ac yna yn fwyaf diweddar y bore yma pan sefais ar y glorian yn yr ystafell ymolchi (er bod gen i syniad eithaf da beth sydd wedi achosi’r cynnydd)!

Ar nodyn mwy difrifol, mae argyfwng COFID-19 wedi esgor ar gwestiynu yn ein cymdeithas; o wleidyddion i’r wasg, o ddynion a menywod busnes i’r di-waith, ac o weithwyr iechyd i’r rhai y maent yn eu trin yn eu gwelyau – rydym i gyd wedi gofyn yr un cwestiwn “Beth ar y ddaear sy’n digwydd?” Rydyn ni’n mynd i’r afael â’r un cwestiwn yn ein heglwysi.

Fel mudiad cenedlaethol o Gristnogion efengylaidd, rydym wedi derbyn llawer o geisiadau dros yr ychydig fisoedd diwethaf i alw Cristnogion ac eglwysi i weddïo dros y sefyllfa. Mae rhai wedi ein hannog i weddïo am iachâd a dileu’r firws, tra bod eraill yn gweld y posibilrwydd o Dduw yn gweithio ac eisiau gweddi i bobl gael eu dwyn i weld eu hangen mewn sefyllfa anobeithiol. Mae rhai wedi cael y cyfnod clo yn anodd, gan ei ystyried yn arwydd o gosb Duw, ond mae eraill wedi cael eu calonogi gan yr holl brofiad wrth iddynt weld bendith Duw trwy bobl newydd yn clywed yr efengyl. Mae ansicrwydd a dryswch yn yr eglwys a does dim un ateb hawdd i’r cwestiwn ‘Beth mae Duw yn ei wneud?’

Rhaid inni bwysleisio yn gyntaf nad ydym yn ceisio gorfodi mwy o weddi na sicrhau bod yr Eglwys yn ymateb mewn ffordd benodol i’r argyfwng. Mae gweddi yn fater o ddisgyblaeth i Gristnogion unigol yn ein heglwysi lleol a rhaid inni ateb drosom ein hunain os bydd angen inni roi mwy o amser a sylw i weddi. Nid yw’r alwad hon yn ddim ond cymorth i helpu’r rhai sy’n dymuno gweddïo, ymgodymu, ac ymgysylltu â’r hyn y mae Duw yn ei wneud yng Nghymru trwy’r firws. Mae’n bwysig bod pawb yn ystyried yr hyn y gallant ei ddysgu’n bersonol trwy’r argyfwng hwn a’n gobaith yw y gallwn helpu hynny mewn rhyw ffordd fach.

Mae’n bwysig ein bod yn seilio ein chwilio a’n deisyfiadau ar air Duw, felly bob dydd bydd Mark Thomas (ein Hysgrifennydd Cyffredinol) yn agor darn o’r Ysgrythur gyda’r nod o ddarparu anogaeth a fframwaith Beiblaidd i arwain ein gweddïau. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r canllaw bob dydd am wythnos (ynghyd â channoedd o Gristnogion eraill ar draws y wlad) neu efallai yr hoffech chi ei ddefnyddio dros sawl wythnos. Mae croeso i chi ei ddefnyddio yn y ffordd y mae’r Arglwydd yn eich tywys, a rhannwch ef gydag eraill yn eich eglwys hefyd – cysylltwch â’r swyddfa neu ymwelwch â’r wefan os hoffech gael mwy o gopïau.

Er ei bod yn ymddangos nad oes un ateb i’r cwestiwn, ‘Beth mae Duw yn ei wneud?’, rydyn ni’n gwybod y dylai’r sefyllfa hon ddysgu un wers fawr i ni i gyd: bod popeth ar y ddaear hon yn fregus – iechyd, ein hamdden, ein gwaith, ein syniadau a hyd yn oed ein heglwys. Ni ddylai’r rhain fod yn ganolbwynt ein bywydau. Duw yw’r un sy’n rhoi ystyr, yr un sy’n haeddu’r holl ogoniant a’r un rydyn ni’n dod o hyd i’n cartref a’n lle diogel ynddo. Ein prif nod a’n gobaith drwy’r alwad hon i weddi yw ein bod yn cael ein galluogi i rannu yng nghri Dafydd yn Salm 63:

O Dduw, ti yw fy Nuw, fe’th geisiaf di; y mae fy enaid yn sychedu amdanat, a’m cnawd yn dihoeni o’th eisiau, fel tir sych a diffaith heb ddŵr. Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr, a gweld dy rym a’th ogoniant. Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd; am hynny bydd fy ngwefusau’n dy foliannu.

Steffan Job, Swyddfa Gogledd MEC