Fe ddychwel gwaredigion yr ARGLWYDD; dônt i Seion dan ganu, a llawenydd tragwyddol ar bob un. Hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.
Eseia 51:11
Mae Duw’n ddiddarfod a’r bendithion niferus mae’n dywallt arnom yr un mor ddiddarfod. Mae natur ‘fythol’ pob peth mae Duw’n ei wneud yn realiti gogoneddus i gredinwyr. Addewidion parhaol, diderfyn a diddiwedd Duw yw’n trysor a’n hyfrydwch. Mae Eseia’n clywed â chlust ffydd ganu llawen a gorfoleddus gwaredigion yr ARGLWYDD. Yr un nodau persain oedd i’w clywed yn ôl yn Exodus (pennod 15) wrth i Moses a’r Israeliaid ganu cân i glodfori gallu Duw a mynegi eu hyder ynddo. Ymunodd ei chwaer Miriam yn y dathlu gan ddawnsio a chanu i gyfeiliant ei thympan am waredigaeth ryfeddol pobl Dduw. Yr un llawenydd sy’n cael ei ddatgan gan Hanna (1 Samuel 2) wrth ystyried gras, trugaredd a ffyddlondeb ei HARGLWYDD galluog a doeth. Ac mae’r Salmau yn llawn o anogaethau i lawenhau a gorfoleddu ynddo Ef. Pan gamwn i mewn i gyfnod y Testament Newydd cawn Mair yn adleisio llawenydd Hanna ac yn datgan bod ei henaid yn mawrhau’r Arglwydd canys, meddai, “Duw, fy Ngwaredwr … gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi”. Ac roedd ei llawenydd mor angerddol fel y llamodd y baban Ioan yng nghroth Elisabeth ei chares.
Pan gawn Iesu (Luc 15:1-31) yn ceisio cywiro agwedd ac ymddygiad didrugaredd y Phariseaid oedd wedi colli’r llawenydd o’i weld yn croesawu pechaduriaid, mae’n adrodd tair dameg. Ynddynt mae’n sôn am adfer dafad golledig, am gael gafael ar ddarn o arian oedd wedi’i golli, ac am gymodi â mab oedd wedi mynd ar ddisberod. Yr hyn sy’n eu cysylltu yw’r llawenydd a’r dathlu o ddod o hyd i’r pethau a gollwyd. “Llawenhewch gyda mi” yw bloedd y bugail, a’r wraig. “Gadewch i ni wledda a llawenhau” yw gorchymyn y tad gorfoleddus. Mae Iesu’n dweud bod yr un llawenydd afieithus yn y nef “am un pechadur sy’n edifarhau”. Mae gwir edifeirwch bob amser yn dod â llawenydd. Pan fo pechod yn cael ei gydnabod a’i gyffesu, pan fo tristwch am wrthryfela ac anufuddhau yn ddilys, mae Duw’n addo maddeuant, glanhad, gras a thrugaredd. Mae helaethrwydd ei dosturi bob amser yn dod â llawenydd a gorfoledd. Gwaetha’r modd, roedd y Phariseaid yn ddiwyro yn eu hymlyniad wrth reolau a rheoliadau eu crefydd. O’r herwydd, doedden nhw’n gwybod dim am y llawenydd o fod mewn cymdeithas â’r unig un a allai faddeu eu pechodau. Byddai eistedd wrth fwrdd a rhannu pryd gyda Iesu mewn cyfeillach a chyfeillgarwch wedi’u rhyddhau o’u syniadau a’u hagweddau gwyredig.
Un o brif ddyheadau Dafydd wrth geisio trugaredd Duw yn dilyn ei fethiant, ei euogrwydd a’i gywilydd oedd cael “gorfoledd ei iachawdwriaeth” wedi’i adfer iddo (Salm 51:12). Fel hyn mae Paul yn annog y Philipiaid yn ei lythyr atynt (4:4): “Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser, fe’i dywedaf eto, llawenhewch.” Mae’n teimladau a’n hamgylchiadau ni’n gyfnewidiol, ond mae’n perthynas sicr â’r Arglwydd yn ddigyfnewid ac ynddo ef y mae’n llawenydd. Nid yw byth yn methu, byth yn siomi, na byth yn ein gadael. Mae Eseia yn yr adnod uchod yn edrych ymlaen yn y pen draw at lawenydd terfynol nefoedd newydd a daear newydd. Wrth i ni ddisgwyl am y dydd hwnnw fe fydd llawer o dreialon ac anawsterau i’w goresgyn, ond hyd yn oed yn eu canol bydd llawenydd yr Arglwydd yn ein cynnal wrth i ni weld ei bwrpas a’i gynllun i’n perffeithio a’n llwyrlanhau o’n pechod. Boed i eiriau Nehemeia (8:10) lefaru wrth ein calonnau a’n bywydau ni heddiw, “llawenhau yn yr ARGLWYDD yw eich nerth”.
Meirion Thomas, Malpas Road