Yr olygfa fry uwchben
Fe chwardd yr un sy’n eistedd yn y nefoedd
Salm 2:4a
Rwy’n ei chyfrif yn fraint i fyw mewn pentref bach ar lethrau bryn yn Eryri. Pan fyddaf yn cael y cyfle, rwyf wrth fy modd yn mynd i fyny i ben y bryn ac edrych allan ar yr olygfa – nid yw byth yn siomi, fel y bydd y llun o brynhawn Sul diwethaf yn profi! Mae yna rywbeth rhyfeddol sy’n gymorth i ymlacio ynglŷn â bod yn uchel uwchben pawb a phob peth yn edrych i lawr ar y byd. Mae’r ceir ar y ffyrdd yn ymddangos yn arafach ac mae’r trefi a’r pentrefi yn cael eu rhoi mewn persbectif wrth i mi edrych ar gaeau o laswellt gwyrdd a’r môr yn ymestyn dros y gorwel. Mae’n teimlo fel y gallwch chi weld popeth o’r fan honno, ac mae popeth yn ymddangos mor fach a di-nod.
Beth ydych chi’n meddwl mae Duw yn ei weld?
Wrth imi sefyll ar ben y bryn yn edrych i lawr ar y byd islaw, ni allwn helpu ond meddwl pa mor rhyfeddol yw’r ffaith fod Duw uwch ein pennau i gyd yn gweld pob dim. Mae’n wir nad ydym yn gwybod union leoliad y nefoedd, ond rydyn ni’n gwybod ei fod yn real, ac rydyn ni’n gwybod bod Duw uwch ein pennau a’i fod yn gweld y cyfan. Os ydw i, greadur meidrol, yn teimlo bod yr hyn a oedd isod yn fach, faint yn fwy gwir yw’r adnod hon wrth inni ystyried Duw – yr Un tragwyddol, goruchaf yn edrych ar blaned fach yn ei greadigaeth enfawr!
Mae hyn wedi bod yn gysur i blant Duw ers miloedd o flynyddoedd. Ydym, efallai ein bod ni’n teimlo’n fach ac yn brin o adnoddau’r byd, ond rydyn ni’n blant y Brenin sy’n eistedd yn y nefoedd ac yn chwerthin. Boed hyn yn gysur i chi heddiw, ac efallai y bydd yn rhoi persbectif wrth i chi lywio drwy ddiwrnod arall ar y darn bach hwn o graig rydyn ni’n ei alw’n ddaear.