Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 3 Gorffennaf 2020

2 Gorffennaf 2020 | gan Iwan Rhys Jones | 1 Corinthiaid 1

Ond pethau ffôl y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio’r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio’r pethau cedyrn, a phethau distadl y byd, a phethau dirmygedig, a ddewisodd Duw, y pethau nid ydynt, i ddiddymu’r pethau sydd. Ac felly, ni all neb ymffrostio gerbron Duw.

1 Corinthiaid 1:27-29

 

Ymffrost

Mewn bywyd, gall fod ffin denau rhwng dau beth ac mae’r gair ‘ymffrost’ yn enghreifftio hyn. Ar y naill law cawn rybuddion yn y Beibl ynglŷn ag ymffrost, tra ar y llaw arall, cawn enghreifftiau lle mae ymffrost yn cael ei gymeradwyo.

Gadewch inni ddechrau gyda chyfeiriadau sy’n gweithredu fel rhybuddion. Yn Salm 10 portreadir y ‘drygionus’ fel a ganlyn: “ymffrostia’r drygionus yn ei chwant ei hun” (adnod 3). Gan aros yn llyfr y Salmau cawn enghraifft benodol iawn о ymffrost sy’n annerbyniol, “rhai sy’n ymddiried yn eu golud ac yn ymffrostio yn nigonedd eu cyfoeth” (Salm 49:6). Yn llyfr y Diarhebion mae cynlluniau dynol yn cael sylw, gyda’r rhybudd hwn, “Paid ag ymffrostio ynglŷn ag yfory” (Diarhebion 27:1).

Enghreifftiau negyddol о ymffrost yw’r rhain i gyd, wrth gwrs, ond nid yw pob ymffrost yn amhriodol: “Ond y sawl sy’n ymffrostio, ymffrostied yn hyn: ei fod yn fy neall ac yn fy adnabod i, mai myfi yw’r ARGLWYDD…” (Jeremeia 9:24).

Mae’n werth nodi’n benodol bod y ferf Hebraeg sy’n cael ei defnyddio i ddynodi ymffrost annerbyniol, yn cael ei defnyddio’n aml i olygu ‘canmol’ neu ‘moli’ Duw. Dyna beth yw ffin denau!

O droi at y Testament Newydd, fe welwn hefyd fod ymffrost yn gallu bod yn beth i’w wrthod, ar y naill law, a’i gymeradwyo ar y llaw arall.

Felly mae Iago yn rhybuddio ei ddarllenwyr, “ymffrostio yr ydych yn eich honiadau balch. Y mae pob ymffrost o’r fath yn ddrwg” (Iago 4:16).

Mewn gwrthgyferbyniad, gwna’r Apostol Paul honiadau mawr iawn am ymffrost y Cristion:

“yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu (ymffrost) yn ein gorthrymderau, oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw’r gallu і ymddál…” (Rhufeiniaid 5:3).

Yn goron ar y cwbl, mae’n siŵr yw’r fendith sy’n deillio o gael ein cymodi â Duw trwy Grist, “…yr ydym hefyd yn gorfoleddu (ymffrostio) yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist” (Rhufeiniaid 5:11).

Iwan Rhys Jones, ‘Ymffrost’, Geiriau Bywyd 2017