Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 3 Awst 2020

31 Gorffennaf 2020 | gan Tirzah Jones | Salm 37

Disgwyl yn dawel wrth yr ARGLWYDD, aros yn amyneddgar amdano.

Salm 37:7

 

Yn ôl ym mis Ionawr, tybed a fyddech chi wedi dychmygu y byddai pethau fel maen nhw ar hyn o bryd. Mae’r ysgolion wedi torri i fyny ac i lawer dylai fod yn ddechrau tymor y gwyliau. Efallai eich bod chi wedi disgwyl bod ar wyliau tramor. Efallai eich bod wedi bwriadu bod nôl yn y gwaith. Neu efallai eich bod wedi edrych ymlaen am gael treulio amser gyda theulu a ffrindiau. Yn bersonol, roeddwn i i fod ar lan y môr yn aelod o Genhadaeth y Traeth. A dweud y gwir, go brin fod rhyw lawer ohonon ni ble roedden ni wedi meddwl y bydden ni.

Yn ystod yr wythnosau diwetha’ rwy wedi clywed nifer o bobl yn dweud eu bod nhw’n dechrau stryglo mwy a mwy. Er bod y lockdown llym drosodd, dyw hi ddim yn teimlo fel’ny rywsut. Efallai’n bod ni’n edrych ar y gwledydd datganoledig eraill ac yn cenfigennu eu rhyddid nhw. Dyw’r gwyliau roeddech chi eisiau ddim wedi gweithio allan, mae’ch furlough fel petai’n ddi-ben-draw, efallai bod dyfodol eich gwaith yn y fantol. I ba gyfeiriad bynnag yr edrychwch chi, mae’r drysau fel petaen nhw’n cau, a dim arwydd o unrhyw olau ym mhen draw’r twnnel.

Efallai’ch bod chi’n wynebu problemau iechyd neu ofidiau teuluol. Neu efallai fod pethau’n waeth na hynny hyd yn oed, ac wrth i chi gymryd stoc o’ch bywyd r’ych chi’n sylweddoli nad yw pethau wedi troi allan fel oeddech chi wedi’i ddychmygu. Beth ddaeth o’r yrfa ddelfrydol ’na, a’r tŷ a’r teulu perffaith? Y gwir yw fod pobl yn mynd i’n siomi ni a’n gadael ni lawr – ffrindiau, teulu, cydweithwyr, y llywodraeth. Weithiau gall bywyd deimlo’n ddim ond siomedigaethau.

Beth bynnag yr achos mae’n deg dweud ein bod i gyd ar brydiau’n cael ein taro gan deimlad o siom, teimlad o ddrws yn cael ei gau’n glep. A gall drws wedi’i gau deimlo mor barhaol, mor bendant, mor derfynol. Sy’n ein gadael gyda’r cwestiwn …ble nawr?

Roeddwn i’n meddwl yr wythnos hon am Joseff, ac am y nifer o ddrysau oedd yn ymddangos fel petaen nhw wedi’u cau iddo fe:

  • Roedd wedi bod yn ufudd i Dduw ac i’w dad Jacob, ond fe gostiodd iddo ei gartref, ei etifeddiaeth …a’r canlyniad? Cael ei werthu i gaethwasiaeth gan ei frodyr.
  • Roedd yn deyrngar, gonest ac anrhydeddus yn ei ymwneud â theulu Potiffar …a’r canlyniad? Colli swydd, a charchar.
  • Mae’n helpu’r pentrulliad a’r pen-pobydd …a’r canlyniad? Cael ei anghofio ganddyn nhw.

Eto dyw Joseff ddim yn rhoi i fyny. Felly sut gallodd Joseff ddioddef  y cwbl hyn heb golli ffydd yn Nuw? Sut gallodd e beidio troi’n ddyn blin, siomedig, chwerw, a dialgar?

Roedd Joseff yn deall nad yr un yw ffyrdd Duw â’n ffyrdd ni; nad yw ei amseru Ef yr un â’n hamseru ni, ond ei fod bob amser yn berffaith. Hoeliodd ei feddwl yn ddiysgog ar ei argyhoeddiad fod Duw’n rheoli holl fanylion ei fywyd, o’r lleiaf hyd y mwyaf. Gwrandewch arno’n tawelu ofnau ei frodyr: “Peidiwch ag ofni. A wyf i yn lle Duw? Yr oeddech chwi’n bwriadu drwg yn f’erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw’n fyw llawer o bobl” (Genesis 50:19-20).

Nid yw’n ffydd yn ein hynysu rhag tristwch, poen a siom; dim ond un enghraifft o hyn yw Joseff. Pan nad yw hi’n glir beth mae Duw yn ei wneud yn ein bywyd, y sialens yw cerdded ymlaen yn y tywyllwch, mewn ffydd ac ufudd-dod, tan i’r goleuni wawrio. Cerddwn gan hoelio’n golwg ar y nod terfynol – yr hyn sy’n ein disgwyl yn nhragwyddoldeb. Dylai ein siomedigaethau ein gyrru at Dduw lle y cawn orffwysfa i’n heneidiau.

Mae Salmau Dafydd yn llawn o enghreifftiau ohono’n llefain ar yr Arglwydd yn ei drallod, ac yna’n ymdawelu a gorffwys ynddo Ef. Dyna pam mae’n ein hannog ni yn Salm 37:7, “Disgwyl yn dawel wrth yr ARGLWYDD, aros yn amyneddgar amdano.”

Enghraifft arall o rywun a ddysgodd ddisgwyl wrth yr Arglwydd yw Eseia ac mae’n gallu tystio: “Eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant” (Eseia 40:31).

Wrth i fi dreulio amser yn ddiweddar yn meddwl pa mor wahanol mae’r Gwanwyn a’r Haf hwn gyda’u holl sialensiau yn troi allan, mae cael f’atgoffa o’r pethau hyn wedi bod o help i fi, a gobeithio y bydd yn galondid i chi hefyd. Pan fydd bywyd yn lluchio’i siomedigaethau atoch chi, i ble ry’ch chi’n troi?

A gaf i’ch annog i fynd a darllen Salm 27?

Tirzah Jones, Malpas Road