Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 29 Gorffennaf 2020

28 Gorffennaf 2020 | gan Dewi Tudur | Esther

Os byddi’n gwrthod siarad yn awr, daw ymwared a chymorth i’r Iddewon o le arall, ond byddi di a thŷ dy dad yn trengi. Pwy a ŵyr nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost i’r frenhiniaeth?

Esther 4:14

 

Dyna lyfr “od” i droi ato am ddefosiwn dyddiol, meddwch chi! A dyna lyfr “od” i fod yn y Beibl o gwbl, meddaf innau, gan nad ydi Duw ddim yn cael ei enwi unwaith ynddo!

Y cefndir hanesyddol i lyfr Esther ydi fod pobl Dduw mewn caethiwed gan Ahasferus, y brenin mwyaf pwerus yn y byd, ac mae cynllwyn ar droed i ddifa holl genedl yr Iddewon. Mae pethau’n edrych yn ddrwg, anobeithiol a digalon. Ond o ddarllen y llyfr yn ofalus gwelwn fod Duw yno hefyd. Yn ei ras cyffredinol a’i ragluniaeth gadarn mae’n gofalu am ei bobl ac yn gweithio’r cyfan allan fel y gall Esther fentro at y brenin heb ei ganiatâd i bledio dros ei bobl. “Pwy a ŵyr…” meddai Mordecai wrthi.

Fel yna hefyd y mae’r Cristion i fod i feddwl. Dyma fi, ynghanol pandemic na wn eto beth fydd ei ben draw. Ond nid damwain na chyd-ddigwyddiad yw hynny chwaith – “Rhagluniaeth fawr y Nef, mor rhyfedd yw esboniad helaeth hon o arfaeth Duw”. Rhagluniaeth yw’r hyn sy’n digwydd ac arfaeth yw’r hyn y mae Duw wedi ei fwriadu a’i ordeinio. Beth am ofyn “Pwy a ŵyr…” pam ein bod yn y cyfnod hwn?

  • Efallai ei fod yn gyfle i mi sylweddoli mor fregus yw fy mywyd bach ac i holi fy hun am fy mherthynas hefo Duw. Efallai fy mod yn gwbl gyfarwydd hefo neges yr Efengyl ond a oes gen i berthynas; ydw i wir yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist? Mae’n gyfle i mi geisio Duw o’r newydd, i edifarhau a chredu. “Pwy a ŵyr…?”
  • Efallai ei fod yn gyfle i mi feddwl am fy nefnydd o amser. O dan yr amgylchiadau presennol, mae rhai pethau yn amhosib i’w gwneud ond mae pethau eraill yn fwy posib. Mae gen i fwy o amser i ddarllen Gair Duw yn fwy myfyrgar a mwy o amser i weddïo. Mae gwaith yr efengyl yng Nghymru yn dibynnu ar weddïau pobol Dduw. Mae neges yr efengyl ar lein yn cyrraedd mwy o bobol. Gweddïwn y bydd Duw yn tywallt ei Ysbryd ac y bydd cynhaeaf ysbrydol a channoedd, miloedd o bobol yn dod i ffydd wirioneddol yn yr Arglwydd Iesu Grist. “Pwy a ŵyr….?”
  • Efallai ei fod yn gyfle i gyrraedd allan at bobl eraill. Mae yna Gristnogion sy’n cael y cyfnod yma yn hynod o anodd, am wahanol resymau ac mae angen cefnogaeth arnyn nhw. Mae ‘na lawer o bobol yn ein cymdeithas sy’n fregus, anghenus a di-gefn. Mae’n gyfle i fod yn garedig ac, os daw cyfle, i roi rheswm am y gobaith Cristnogol. Boed i’n “goleuni lewyrchu ger bron eraill er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chi a gogoneddu eich Tad yr hwn sydd yn y Nefoedd”. “Pwy a ŵyr….?”

Cofiwch hefyd wrth orffen fod yna gysur arall yn yr adnod hon. Nid yw gwaith y deyrnas yn dibynnu arnom ni – a diolch am hynny! “Daw ymwared a chymorth o le arall” – dyna wirionedd hyfryd. Beth bynnag sydd, beth bynnag ddaw, mae gofal Duw dros ei bobol yn ddiwyro ac yn ddi-feth. Diolch Iddo!

Cadwch yn iach ac yn saff – ym mhob ystyr!

Dewi Tudur, Eglwys Efengylaidd Ardudwy