Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 27 Gorffennaf 2020

24 Gorffennaf 2020 | gan Bill Hughes | Ioan 10

Aeth Iesu i ffwrdd eto dros yr Iorddonen i’r man lle bu Ioan gynt yn bedyddio, ac arhosodd yno. Daeth llawer ato yno, ac yr oeddent yn dweud, “Ni wnaeth Ioan unrhyw arwydd, ond yr oedd popeth a ddywedodd Ioan am y dyn hwn yn wir.” A daeth llawer i gredu ynddo yn y lle hwnnw.

Ioan 10:40-42

 

Fel eglwys rydym yn darllen drwy Efengyl Ioan y mis hwn, felly meddyliais y byddwn yn rhannu dyfyniad arall o un o bregethau George Morrison o Glasgow sy’n dwyn y teitl ‘Y dyn na wnaeth unrhyw arwydd’ sy’n seiliedig ar Ioan 10:41 – geiriau a ddwedwyd wrth ein Harglwydd ynglŷn ag Ioan Fedyddiwr. “Ni wnaeth Ioan unrhyw arwydd, ond yr oedd popeth a ddywedodd Ioan am y dyn hwn yn wir.”

“Y math o berson nad yw’n cyflawni unrhyw arwydd yw’r math yr ydym yn ei gyfarfod bob dydd. Dyma berson nad yw byth yn peri i ni ryfeddu. Ceir dynion fel Shakespeare sy’n ein cyfoethogi gyda pherlau o ddoethineb bob tro y bydd yn codi ei ysgrifbin. Ceir merched sy’n peri hyfrydwch i ni drwy eu cân. Ond nid felly mae’r person cyffredin.

Felly gall fod yn gymorth i ni ystyried beth sydd gan yr Ysgrythur i’w ddysgu i ni am y dyn na wnaeth unrhyw arwydd.

Nid yw cymeriad yn dibynnol ar feddu doniau mawr. Gall y cymeriad flodeuo yn y cyffredin. Ni wnaeth Ioan unrhyw arwydd ond er hynny rhoddodd Dduw waith arbennig iddo’i gyflawni – y  gwaith o dystiolaethu am Grist. Rydym yn dueddol o feddwl mai dim ond i bobl arbennig iawn y mae gwaith arbennig yn cael ei roi, nad ar gyfer pobl gyffredin y mae’r tasgau mawr ond ar gyfer pobl sydd â dawn i gyflawni rhyfeddodau. Mae gwasanaeth arbennig wedi’i bennu ar dy gyfer di – rhywbeth na all neb ei wneud ond y ti; rhywbeth na chaiff ei wneud os na wnei di o.

Ni wnaeth Ioan Fedyddiwr unrhyw arwydd, serch hynny cafodd ddylanwad dwfn a pharhaol. Dywedodd ein Harglwydd ei fod yn fwy na phroffwydi’r Hen Destament ond er hynny ni wnaeth Ioan unrhyw arwydd. Dros y blynyddoedd mae’r mwyafrif ohonom wedi cyfarfod â phobl sy’n gallu cymryd rhywbeth cyffredin a’i droi yn beth o brydferthwch neilltuol. A dylem fod yn ddiolchgar am yr holl ddoniau nodedig hyn, oherwydd oddi uchod y daw pob rhoi da a phob rhodd berffaith – ond ai pobl fel hyn sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arnom? Onid yw’n llawer mwy arferol mai unigolion cyffredin, gostyngedig, nad ydynt yn meddu ar ddoniau neilltuol sydd wedi gadael eu hôl arnom fwyaf? – gwraig neu fam, cyfaill doeth a ffyddlon, gweinidog na fyddai byth yn cael ei ystyried yn athrylith? Un peth hynod mewn bywyd yw nad yw maint dylanwad person yn dibynnu ar faint ei athrylith ond fe ddaw yn aml o du rhai na wnaeth unrhyw arwydd (megis Ioan).

Ni wnaeth Ioan unrhyw arwydd ond cafodd y ganmoliaeth uchaf gan Grist: “nid oes ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan.”  Gall dyn fyw bywyd ffug a phwdr a llwyddo serch hynny i ennill canmoliaeth dynion. Y llinyn mesur mewn gwirionedd sy’n dweud a yw bywyd yn llwyddiannus ai peidio yw, â gaiff glod gan Grist?

I sicrhau’r ganmoliaeth hwnnw does dim angen bod yn arbennig nac yn drawiadol: fe’i rhoddir i’r sawl na wnaeth unrhyw arwydd – i’r rhai sy’n ymddiried ynddo Ef pan mae popeth yn ddu; i’r rhai sy’n llwyddo i edrych tua’r wawr; i’r rhai sydd drwy loes a threialon yn glynu wrth y llwybr a ymddiriedwyd iddynt; i’r rhai sy’n “dyfalbarhau” gyda gwên ar eu wynebau; i’r rhai sy’n estyn llaw i frawd ar y ffordd; i’r rhai sy’n edrych am ddinas ag iddi sylfeini.

Y mae ei le yn y byd mawr yma i bob dawn ac i bob person o athrylith sy’n gallu cyflawni rhyfeddodau. Ond mae lle a nerth a buddugoliaeth yma hefyd i’r lliaws mawr na wnaethant unrhyw arwydd. Nid mater o “Da was da a rhyfeddol,” yw hi neu mi fyddai ar ben ar filiynau ohonom. Yr hyn a ddywedir yw “Da was da a ffyddlon”.

Yn gywir,

Bill Hughes