Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 26 Gorffennaf 2020

24 Gorffennaf 2020 | gan Mari Jones | Hebreaid 4

Felly, gan ei bod yn sicr y bydd rhai yn cael dod i mewn iddi, a chan fod y rhai y cyhoeddwyd y newyddion da iddynt gynt heb ddod i mewn oherwydd anufudd-dod, y mae ef drachefn yn pennu dydd neilltuol, sef “Heddiw”, gan lefaru trwy Ddafydd ar ôl cymaint o amser, fel y dyfynnwyd o’r blaen: “Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch â chaledu’ch calonnau.”

Hebreaid 4:6-7

 

Ystyfnig fel dafad

Hyfrydwch oedd cael bod yn bresennol yn Blair Atholl yn yr Alban rai blynyddoedd yn ôl, yn y treialon cŵn-defaid rhyngwladol. Roedd gerwinder y mynyddoedd o’n cwmpas yn olygfa odidog, ac yn cyd-fynd ag anian y defaid a gartrefai yno.

Roedd y rheini wedi hen arfer ymladd yr elfennau am eu bodolaeth. Buan iawn y gwelem fod trafod y defaid penddu, cryfion yn gosod eithaf prawf ar bersonoliaeth y cŵn ac yn dwysáu’r prawf ar eu deallusrwydd a’u hufudd-dod i orchymyn eu meistri. Synhwyrai’r defaid ar unwaith unrhyw wendid yn y ci a manteisient ar hynny yn llawn, yn arbennig ar ddiwedd y cwrs hir a chaled.

Cymharol ychydig a lwyddodd i gorlannu’r defaid yn y brif gystadleuaeth am y bencampwriaeth, er eu cael at ddrws y gorlan, a hwnnw’n llydan agored o’u blaen.

Er mai hyd y cortyn wrth bostyn y gorlan oedd hyd rhyddid y bugail ac mai hyd ei ffon at hynny oedd hyd ei gyrhaeddiad, gwnâi’r bugail ei orau glas i’w swcro i gymryd eu corlannu. A gwnâi’r ci yntau, dan orchymyn taer ei feistr, bopeth о fewn ei allu i wasgu ar y defaid i ildio eu hewyllys a mynd trwy’r fynedfa – un о uchafbwyntiau’r cwrs yr edrychai pawb ymlaen ato.

Ond at ei gilydd, mynd heibio i ddrws y gorlan a wnâi’r defaid pengryf hurt. Anwybyddent y fynedfa yn llwyr, fel pe na bai yno. Nid oedd ganddynt ddiddordeb о gwbl yn y gwahoddiad i fynd i mewn. Wedi dechrau gwrthod cydnabod drws y gorlan a mynd heibio iddo sawl gwaith, dechreuent ymgordeddu trwy’i gilydd, y naill yn rhwystr i’r llall, yn ben ac yn gynffon, gyferbyn â’r fynedfa.

Yn lle mynd i’w ffordd yn dawel drwy’r drws, cadwent lygad cyson ar y ci, gan wylio am unrhyw siawns i ddianc. Yna sbonc, ac i ffwrdd â’r defaid eto ar ôl bod о fewn y dim i’w corlannu! Gallech glywed ochenaid unol y dorf mewn cydymdeimlad â’r meistr a’i gi.

Dacw’r ci druan yn mynd ati i roi cynnig arall arni i’w casglu at y gorlan unwaith eto. Ond gan amlaf, wedi dechrau gwrthod, gallwn daeru fod rhyw galedrwydd ystyfnig yn meddiannu’r defaid i’w galluogi i herio’r bugail a’i gi. Hawdd yn awr yw i’r gwylwyr deimlo na waeth iddynt roi’r ffidil yn y to ddim, hyd yn oed cyn caniad y gloch sy’n dynodi fod yr amser penodedig drosodd.

Nid defaid yr Alban yn unig a all fod yn ystyfnig. Yn sicr ddigon, mae yna galedrwydd yn meddiannu’r galon ddynol honno sy’n gwrthod gwahoddiad Duw i dderbyn maddeuant drwy rinwedd marwolaeth yr Arglwydd Iesu Grist.

Ond unwaith y cewch eich hun yn у gorlan, er eich bod wedi eich cau i mewn, daw’r gorfoledd a’r llawenydd о wybod eich bod yn y lle iawn – yn y rhyddid a ddaw о fod yng Nghrist ac yn blentyn i Dduw. Er i’r gorlan fod yn gul, mae’n ddwfn eithriadol.

Ceisiwch yr ARGLWYDD tra gellir ei gael, galwch arno tra bydd yn agos. Eseia 55:6

Nid yw’r Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw’n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch. 2 Pedr 3:9

Mari Jones, Daw’r Wennol yn Ôl