Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 25 Gorffennaf 2020

24 Gorffennaf 2020 | gan Steffan Job | Mathew 8

A dyma ddyn gwahanglwyfus yn dod ato ac yn syrthio o’i flaen a dweud, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.” Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ar unwaith glanhawyd ei wahanglwyf.

Mathew 8:2-3

 

Trown heddiw at y defosiwn olaf sy’n seiliedig ar y ddwy adnod hyn. Rydym wedi gweld bod Iesu yn dda ac yn dosturiol tuag at y rhai mewn angen. Bore ‘ma, rydyn ni’n edrych ar ein hymateb i Iesu a sut y dylai’r pethau hyn effeithio ar ein bywydau.

Ar gyfer beth ydych chi’n byw? Am gwestiwn am fore Sadwrn!

Gallwn fyw am gynifer o bethau – i’r teulu, i gysur, i hapusrwydd neu hyd yn oed am statws. Nid oes yr un o’r pethau hyn yn anghywir ynddynt eu hunain, ond ni ddylent fod yn brif nod inni mewn bywyd. Nid wyf yn gefnogwr o S Club 7 (grŵp pop digon gwachil o ugain mlynedd yn ôl!), ond mae un gân wedi glynu yn fy meddwl gyda’r geiriau bythgofiadwy ‘Dewch â’r cyfan yn ôl atoch chi’ (Bring it all back to you). Ymddengys mai hwn yw trac sain fy nghalon fy hun mor aml – rwyf am i bopeth ddod yn ôl ataf fi, a dyma’r cymhelliad pan fyddaf yn crafu o dan wyneb cymaint o fy ymddygiad fy hun. Rhoi ein hunain yn y canol a byw er ein cysur a’n gogoniant ein hunain yw pechod yn ei ffurf puraf. Dyma wnaeth Adda ac Efa yng ngardd Eden, yr hyn a wnaeth Satan pan gwympodd o’r nefoedd a dyma ogwydd naturiol ein calonnau ein hunain, ac mae’n arwain at ddinistr.

Beth yw’r ateb?

A gaf awgrymu yn garedig y bore yma fod yr ateb i’w gael yma yn yr adnodau hyn. Ni fyddwch byth yn gallu disodli’ch hun o ganol eich bywyd nes i chi ddod o hyd i rywun i gymryd eich lle. Trwy’r Ysbryd gallwn droi at un arall sydd mor hollol brydferth a rhyfeddol, nes fod popeth arall yn pylu i ddim o’i gymharu ag ef. Fel y dywedodd Paul yn Philipiaid 3, ‘Ond beth bynnag oedd yn ennill i mi, yr wyf yn awr yn ei ystyried yn golled oherwydd Crist. A mwy na hynny hyd yn oed, yr wyf yn dal i gyfrif pob peth yn golled, ar bwys rhagoriaeth y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd, yr un y collais bob peth o’i herwydd. Yr wyf yn cyfrif y cwbl yn ysbwriel, er mwyn imi ennill Crist.’

Mae ymateb Iesu i’r dyn gwahanglwyfus yn dangos rhywbeth o’i fawredd a’i harddwch. Ef yw’r brenin gostyngedig a greodd bob peth ac eto mae’n estyn allan mewn cariad tuag at yr anghenus. Ef yw’r cryfaf oll, ac eto’r dyn mwyaf addfwyn ac isel o bawb, sy’n pelydru cariad a harddwch. Nid yw Cristnogaeth erioed wedi ymwneud â dilyn rheolau na hyd yn oed garu math o ddiwinyddiaeth – mae’n ymwneud â charu Crist. Ac am Grist sydd gennym i’w garu! Yr un sy’n berffaith mewn sancteiddrwydd ond eto rhoddodd ei hun ar y groes drosom. Pan fydd yr Ysbryd yn datgelu harddwch Crist inni, byddwn yn dechrau ei garu a byw iddo, a dyma fywyd yn ei lawnder.

Felly, yng ngeiriau S Club 7 (sydd wedi eu haddasu ychydig) – dewch â’r cyfan yn ôl ato ef!

Steffan Job, Capel y Ffynnon Bangor