A dyma ddyn gwahanglwyfus yn dod ato ac yn syrthio o’i flaen a dweud, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.” Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ar unwaith glanhawyd ei wahanglwyf.
Mathew 8:2-3
Ar ôl edrych ddoe ar ddaioni Iesu, dychwelwn heddiw at yr adnodau syml hyn sy’n datgelu cymaint am ein Harglwydd.
Sylwch fod Iesu’n estyn ei law ac yn ei gyffwrdd. Rydyn ni’n gwybod rhywbeth heddiw o berygl a heintusrwydd afiechydon, ond doedd gan Iesu ddim PPE. Roedd y gwahanglwyf yn salwch ofnadwy yn feddygol ac yn gymdeithasol, ond ni thalodd Iesu unrhyw sylw i’w ddiogelwch ei hun, dim ond estyn allan a chyffwrdd â’r gwahanglwyf.
Beth mae hyn yn ei ddatgelu am Iesu? Mae’n dangos i ni fod Iesu’n garedig a llawn thosturi.
Wrth gwrs, nid yw hyn yn syndod i ni, gan ein bod yn gweld drosodd a throsodd pa mor dosturiol oedd Iesu â phobl pan ar y Ddaear (gweler Math. 14:4 a 15:32). Ond ydyn ni’n cymryd hyn yn ganiataol, ac ydyn ni wedi gwir afael yn y canlyniadau rhyfeddol hyn ar hyn a olyga i ni fel pechaduriaid anghenus?
Roedd Iesu bob amser yn cael ei symud pan roedd yn gweld angen yn ystod ei weinidogaeth ddaearol. Oherwydd ei dosturi a’i gariad mawr, ei ymateb cyntaf oedd estyn allan a helpu, a gwelwn hyn yn glir yn y digwyddiad hwn wrth iddo ymateb i ymbil y dyn am gymorth. Gwrandewch ar ei eiriau – ‘Mynnaf’ – wrth gwrs ei fod eisiau helpu, beth arall allai ei wneud? Mae’n dosturi a charedigrwydd yn eu ffurf buraf ac yn ffynhonnell popeth sy’n dda ac yn bur yn y cosmos cyfan.
Tosturi a charedigrwydd tuag at yr anghenus yw ‘calling card’ Iesu.
Pa mor aml ydych chi a minnau’n teimlo mor annheilwng neu’n methu â dod at Dduw? Rydym yn ymwybodol o’n pechod a’n brwydrau ac yn aml yn cario beichiau ac anghenion trwm ac ynghanol materion sydd y tu hwnt i’n galluoedd ein hunain i’w datrys. Ond mae hynny’n ein gwneud ni’n union y math o bobl y mae Iesu’n chwilio amdanyn nhw – ein hangen a’n iselderau sy’n ein gwneud yn gymwys i dderbyn ei garedigrwydd a’i dosturi. Am gysur!
Peidiwch byth â gadael i’r diafol eich temtio i feddwl eich bod chi’n rhy anghenus i Iesu. Os ydych chi’n ymwybodol o’ch angen, rhedwch ato a gweiddi fel y gwnaeth y dyn gwahanglwyfus, “Arglwydd, os mynni, gelli fy nglanhau”. Yna rhyfeddwch wrth i’r breichiau hynny a gafodd eu hymestyn allan a’u hoelio ar y pren, symud, ac ymestyn tuag atoch chi yn eich angen. Am Waredwr!
Mae Iesu’n brydferth yn ei garedigrwydd.