Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 23 Gorffennaf 2020

23 Gorffennaf 2020 | Mathew 8

A dyma ddyn gwahanglwyfus yn dod ato ac yn syrthio o’i flaen a dweud, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.” Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ar unwaith glanhawyd ei wahanglwyf.

Mathew 8:2-3

 

Gallwch chi ddweud llawer am rywun o’r hyn maen nhw’n ei ddymuno. Mae ein dyheadau’n datgelu’r bobl ydyn ni, ac yn aml yn adlewyrchu’r hyn sydd bwysicaf i ni – maen nhw’n dangos ein cymeriad.

Sylwch ar sut mae’r dyn gwahanglwyfus yn rhoi ei gais i Iesu. Mae’n deall yn glir bod gan Iesu’r pŵer i wella, ac felly mae’n cydnabod ei fod yn fater o’r hyn mae Iesu eisiau ei wneud. Bron na allwch glywed yr artaith yn ei lais – ‘Iesu, os wyt ti’n dymuno, fe allet ti fy iacháu’. Mae ateb ac awydd Iesu yn datgelu cymaint amdano’i hun, a dros y dyddiau nesaf byddwn yn archwilio’r pethau hyn gyda’n gilydd.

Yn gyntaf, sylwch fod Iesu’n dymuno i’r dyn fod yn lân. Mae hyn yn dangos fod Iesu’n dda.

Gall bywyd fod yn ddu a gwyn i blentyn ifanc gyda phobl a sefyllfaoedd yn aml yn cwympo i’r da neu’r drwg. Fodd bynnag, wrth inni dyfu, rydym yn dysgu bod graddau o ‘ddaioni’ yn ein byd, gyda rhai pobl yn ymddwyn yn well ac yn foesol yn fwy cywir nag eraill. Rydyn ni i gyd yn gymysgedd o’r da a’r drwg, a gall hyn liwio’r ffordd rydyn ni’n deall ac yn rhyngweithio â phobl. Gwyddom na allwn ymddiried yn llawn hyd yn oed yn y bobl orau gan ein bod wedi cael ein siomi mor aml ac yn gwybod cymhlethdod a dyfnderoedd y galon ddynol.

Ond mae daioni Iesu yn bur, yn berffaith, ac yn sanctaidd. Mae ei galon yn 100% dda a heb unrhyw fymryn o ddrwg na hunanoldeb, mae ei olwg yn llwyr ar yr hyn sy’n gywir ac yn wir. Gellir ymddiried yn llwyr yn Iesu.

Gadewch i hynny suddo i mewn.

Gallai dyn ymddiried yn Iesu gyda’i wraig gan wybod na fyddai gan Iesu byth feddyliau nac ysgogiadau amhur tuag ati. Gallai miliwnydd ymddiried yn Iesu gyda’i holl arian, gan wybod na fyddai byth yn dwyn, benthyg, na defnyddio ceiniog yn anghywir. Gallai rhywun ymddiried yn Iesu gyda’r holl bŵer gwleidyddol yn y byd, gan wybod na fyddai Iesu byth yn ceisio ei les ei hun uwchlaw unrhyw un arall. Mae Iesu yn dda a gellir ymddiried yn llwyr ynddo.

Gadewch inni droi am eiliad o awydd ac ymateb Iesu yn yr adnodau hyn i’n meddyliau ein hunain ar gyfer y diwrnod sydd i ddod. Mae mor hawdd inni gytuno’n ddiwinyddol â daioni Iesu, ond ymagweddu at y dydd gydag ansicrwydd, aflonyddwch a hyd yn oed ofn wrth inni amau  daioni Iesu yn ymarferol. Gallwn gytuno ei fod yn dda yn ein pennau ond anghytuno â’n calonnau wrth inni fethu â dod â phob peth ato mewn gweddi a gwrthod ymostwng i’w ewyllys.

Mae angen ein hatgoffa’n gyson fod Iesu’n dda, a’n bod ni’n gwybod bod popeth yn cydweithio er daioni i’r rhai sy’n caru Duw (Rhufeiniaid 8:28).

Mae Iesu’n brydferth yn ei ddaioni.​