Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 22 Gorffennaf 2020

21 Gorffennaf 2020 | gan Meirion Thomas | 1 Pedr 1

“Pedr, apostol Iesu Grist, at y dieithriaid sydd ar wasgar yn Pontus, Galatia, Capadocia, Asia a Bithynia, sy’n etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw y Tad, trwy waith sancteiddiol yr Ysbryd, i fod yn ufudd i Iesu Grist ac i’w taenellu â’i waed ef. Gras a thangnefedd a amlhaer i chwi!”

1 Pedr 1:1-2

 

Mae’n anodd i ni lawn sylweddoli pa mor anferth y sialensiau a wynebai gredinwyr y ganrif gyntaf. Oherwydd eu ffydd roeddent yn alltud ac wedi’u gwasgaru ar draws y gwledydd a’r parthau a enwir yn yr adnodau uchod. Roeddent wedi gorfod gadael cartref, teulu, ffrindiau, eu bywoliaeth, a’r cymunedau clòs y perthynent iddynt. Roedd llawer i gysylltiad dynol wedi’i ddifetha a’i dorri. Roedd yn rhaid wrth wroldeb i wynebu ansicrwydd ac ansefydlogrwydd bywyd a’r holl ofid, pryder ac ofn a’u dilynai. Pa ddyfodol oedd iddynt hwy a’r rhai a garent? Pa erlid pellach oedd ar y gorwel? Yn wyneb y problemau real ac enbyd hyn, mae gan y Bugail a’r Apostol Pedr air o anogaeth sicr a phendant iddynt.

Gan fod eu safle daearol a ffisegol bellach yn ansicr ac ansefydlog roedd angen iddynt gael eu sicrhau nad oedd eu safle ysbrydol, eu hunaniaeth na’u diogelwch wedi newid, a’u bod wedi’u gwreiddio mewn cytundeb diwyro a seiliwyd gan natur ddigyfnewid y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân. Maent wedi’u lleoli yn y Drindod ac ynghlwm wrtho! Mae Pedr yn eu hatgoffa o wirioneddau eu ffydd. Maent yn “etholedigion Duw” ac wedi’u hethol “yn ôl rhagwybodaeth Duw y Tad.” Y dyfarniad dwyfol sefydlog yw sail ein holl fendithion sicr. Mae’r ffaith ryfeddol i’r Duw Hollalluog benodi bod y byd, yr eglwys a’m hiachawdwriaeth bersonol i yn ddyfarniad dwyfol yn ddirgelwch anghredadwy ond yn realiti gwefreiddiol. Y fath sicrwydd bendigaid mae’n ei roi i ni. Er yn gwybod am ein pechod, ein gwrthryfel a’n hanufudd-dod, mae Duw’n ymarfer ei ddewis sofran i’n caru a’n cynnwys yn ei deulu. Does ryfedd i Pedr (adnod 3) bwysleisio’i “fawr drugaredd” fel rheswm dros ei foliannu. Cawn ein hatgoffa nad dewis clinigol, oer yw hwn ond, yn hytrach, dewis “Duw y Tad” sydd mewn perthynas fabwysiadol, bersonol, agos a chariadus â ni.

Ond sut mae’r gwaith rhyfeddol hwn wedi’i gyflawni a’i gwblhau? Ym mha ffordd bendant a phenodol mae’r berthynas sicr hon wedi’i sefydlu? Mae dau wirionedd aruthrol wedi’u llifoleuo yma. Yn gyntaf, “gwaith sancteiddiol yr Ysbryd.” Mae Duw’r Ysbryd yn ein neilltuo trwy wyrth yr ail enedigaeth. Yna mae’n ein gwaredu o gaethiwed a dallineb pechod ac yn ein gollwng yn rhydd. Yna mae’n cymhwyso gwaith gorffenedig Iesu Grist i ni trwy greu ufudd-dod newydd yn ein calonnau. Mae hyn i gyd yn bosibl oherwydd yr ail wirionedd – “ei waed”. Sail ddiysgog ein derbyniad a’n mabwysiad i deulu Duw yw’r “gwaed a redodd ar y groes” pan fu farw ein Harglwydd fel aberth dirprwyol dros ein pechod. Mae gwaed Crist yn ein golchi a’n llwyr lanhau o staen ein heuogrwydd a’n cywilydd. Beth bynnag ein gorffennol, beth bynnag all fod yn wir amdanom yn y presennol, rydym ni’n awr mewn perthynas ddiysgog â Duw’r Tad trwy Iesu’r Mab a gwaith sancteiddiol yr Ysbryd Glân.

’Does ryfedd fod Pedr yn atgoffa’r credinwyr gwasgaredig fod “gras a thangnefedd” yn gymdeithion iddynt, er mor ansicr y daith. Bydd yr efeilliaid bendithiol hyn yn ysgafnhau eu baich o ofid, gofal ac ofn ynghylch y presennol a’r dyddiau i ddod. Bydd y gras a’u hachubodd yn eu cynnal a’u nerthu. Bydd y tangnefedd a addawodd Crist i’w ddisgyblion mewn byd o anawsterau yn amddiffyn eu calonnau a’u meddyliau. Ac nid oes brinder ohonynt – mae “amlder” ohonynt ynddo Ef. ’Does ‘na ddim toriadau, dim mesurau cynilo na dogni ar adnoddau’r nefoedd! A’r hyn a gawn yn adnodau 3-9 yw rhaeadr o obaith iachusol pellach, etifeddiaeth, ffydd a llawenydd ar gyfer y credinwyr wrth iddynt wynebu “blinder…dan amrywiol brofedigaethau.” Tra’n teithio tua chyrchfan sicr, “iachawdwriaeth eich eneidiau”, byddant yn ddiogel tan y diwedd “dan warchod gallu Duw.” Trwy ffydd gadewch i ninnau fwynhau’r un addewid a’r un sicrwydd heddiw.​

Meirion Thomas, Malpas Road