Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 21 Gorffennaf 2020

20 Gorffennaf 2020 | gan Tirzah Jones

Safaf ar fy nisgwylfa, a chymryd fy safle ar y tŵr; syllaf i weld beth a ddywed wrthyf, a beth fydd ei ateb i’m cwyn. Atebodd yr Arglwydd fi: ‘Ysgrifenna’r weledigaeth, a gwna hi’n eglur ar lechen, fel y gellir ei darllen wrth redeg; oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser – daw ar frys i’w chyflawni, a heb ball. Yn wir nid oeda; disgwyl amdani, oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu. Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy’n ddi-hid, ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb.

Habacuc 2:1-4

Mae’r ail adnod yn y llyfr Habacuc yn taro tant i lawer ohonom, ‘Am ba hyd, Arglwydd, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando.’  Rydyn ni’n gyfarwydd ag addewidion Duw, ac rydyn ni’n credu y bydd Duw bob amser yn cyflawni ei addewidion, ond mae bwlch rhwng y cyfnod pan roddwyd yr addewidion a’r foment pan gaiff yr addewidion eu cyflawni. I’n llygaid ni dydi Duw ddim yn symud yn ddigon sydyn, ac ar adegau gallwn feddwl bod Duw angen ei ‘help’ ni! Dydyn ni ddim ar ein pennau ein hunain yn hyn o beth. Fe wnaeth Abram roi’r argraff bod Sara yn chwaer iddo, yn hytrach nag yn wraig iddo. Fe wnaeth Naomi anfon Ruth at Boas. Mae Habacuc yn teimlo nad yw Duw yn clywed ei weddïau, ac mae nifer o’r Salmau a chri’r proffwydi eraill yn adleisio yr un nodyn. Ar hyn o bryd rydyn ni’n arfer â chyfarwyddiadau’r Senedd i ‘Aros’. Roedd rhaid aros cyn codi’r cyfyngiad ar deithio 5 milltir. Roedd rhaid aros ychydig wythosau a pharatoi cyn ffurfio ‘swigen’. Mae’r wythnosau o aros yn gallu teimlo’n hir iawn, yn enwedig wrth i ni weld gwledydd eraill yn symud yn gynt na ni. Sgwn i faint ohonon ni gafodd ein temptio i geisio cyflymu’r broses ychydig bach? Mae holl addewidion y llywodraeth yn dibynnu ar bobl Cymru yn dilyn y cyfarwyddiadau.

Yn Habacuc 1 a 2 fe welwn ni bod y proffwyd yn teimlo’n ddiamynedd gydag amseriad Duw.

Problem y Proffwyd Diamynedd

  • Mae’r drwg yn ennill y dydd dros ddaioni
  • Dydi’r system cyfraith a threfn ddim yn gyfiawn
  • Mae trais, cynnen ac ymryson ym mhob man
  • Mae Duw yn segur yn hyn i gyd
  • Dydi Duw ddim yn clywed ein gweddiau
  • Fydd Duw ddim yn ateb ei weddiau
  • Mae’n ymddangos bod Duw wedi anghofio’r addewid roddodd e i Habacuc.

Cynllun y Proffwyd Diamynedd

  • Mae’n mynd i barhau i weddio a dod a’i ddeisyfiadau o flaen Duw
  • Mae’n mynd i aros i weld beth sydd gan Dduw i’w ddweud ar y mater.

Ateb Duw i’w Broffwyd Diamynedd

  • Oherwydd nad yw barn bob amser yn digwydd yn sydyn
    • Mae’r drygionus yn meddwl nad yw Duw yn gweld nac yn poeni am eu gweithredoedd
    • Mae’r cyfiawn yn teimlo bod Duw wedi eu hanghofio

OND

  • Mae amseriad Duw yn wahanol i’n hamseriad ni
  • Dydyn ni ddim yn gallu gweld y darlun cyfan, ac felly dydyn ni ddim yn deall sut mae Duw yn gweithredu
  • Peidiwch rhoi’r gorau iddi. Mae Duw bob amser yn cadw ei addewidion.

Er gwaethaf rhwystredigaeth Habacuc, mae’n gwybod mai Duw yn unig sy’n gallu datrys y broblem, ac mae’n parhau i osod ei holl bryderon gerbron Duw. Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bosibl na fydd holl addewidion y Senedd yn gallu cael eu gweithredu. Ond dyna gysur gwybod y gallwn ni gael hyder llwyr yn addewidion Duw, ac nad yw’r un o’i addewidion yn dibynnu ar yr hyn wnawn ni. “Nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd, neu fod meidrol yn edifarhau. Oni wna yr hyn a addawodd, a chyflawni’r hyn a ddywedodd?” (Numeri 23:19)

Mae Salm 37:7 yn dweud, “Disgwyl yn dawel am yr Arglwydd, aros yn amyneddgar amdano; paid â bod yn ddig wrth yr yr un sy’n llwyddo, y gŵr sy’n gwneud cynllwynion.” Mae diffyg amynedd yn nodweddu nifer ohonom ni. Yn ei lyfr ar Ruth (wedi ei selio ar anerchiadau Cynhadledd Aberystwyth 1996), dywed Sinclair Ferguson, “Rydyn ni’n rhy aml yn ffocysu arnom ni ein hunain, fel petai’r ateb i’w gael yn ein bywydau unigol ni – fel pe baem ni’n ganolog yn nehongliad cynllun Duw ar gyfer y bydysawd cyfan. Mae Duw yn ein hadnabod ni’n bersonol ac mae ganddo gonsyrn dros ein lles ni. Ond dydi rhagluniaeth Duw ddim yn troi o’m cwmpas i, ac er fy mod i’n rhan o’r cynllun, ni ellir gwahanu’r hyn mae Duw yn ei wneud yn fy mywyd i oddi wrth bopeth arall y mae Ef yn ei wneud.” Neu yng ngeiriau Eseia 55:8 “Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i’, medd yr Arglwydd.”

Efallai nad ydyn ni’n hoffi amseru Duw, ond mae ein Duw ni yn driw i’w addewid. Josua 21:45 “Ni fethodd un o’r holl bethau da a addawodd yr Arglwydd i dŷ Israel; daeth y cwbl i ben.” Ac mae’r gwirionedd hwn yr un mor wir i ni heddiw oherwydd “Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth” (Hebreaid 13:8).

Tirzah Jones, Malpas Road.