Yn y dyddiau hynny a’r amser hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yn ofer y ceisir drygioni Israel, ac ni cheir pechod Jwda; oherwydd maddeuaf i’r rhai a adawaf yn weddill.’
Jeremeia 50:20
Annwyl gyfeillion,
Anfonaf ddetholiad o ddyfyniadau un o’m hoff awduron, F.W. Boreham, atoch. Y llyfr yw When the tide comes in a’r bennod rwyf yn ei dyfynnu yw ‘The futile Search.’
“Siawns nad oes enghraifft mwy rhyfedd na mwy diddorol o “chwilio am” neu “geisio” rhywbeth na’r un a ddarllenwn amdano yn llyfr y proffwyd Jeremeia ble mae’n adrodd: ‘Yn y dyddiau hynny a’r amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, yn ofer y ceisir drygioni Israel, ac ni cheir pechod Jwda; oherwydd maddeuaf i’r rhai a adawaf yn weddill.’ (Jeremeia 50:20)
Rhywun yn chwilio am fy mhechodau! Rhywun yn ceisio fy nghamweddau! Mae’n aneglur ai cyrch gan angylion neu ai cyrch gan gythreuliaid sydd yma ond mae’n gyrch ddyfal a manwl gan rai sy’n gwbl ymroddedig a chwbl benderfynol o ddod a’m camweddau i’r golwg. Cyrch i gopa’r mynyddoedd uchaf ac i’r dyffrynnoedd mwyaf unig; cyrch drwy dywod anialwch dibendraw, drwy mannau cudd y pyllau dyfnaf; cyrch sydd am dreiddio drwy’r coedwigoedd mwyaf trwchus a thrwy dawelwch eira diddarfod. Chwilir yr uchelderau a’r dyfnderau; dringir y llwybr serth at y nefoedd, ac ysgwyd pyrth uffern. Hidlir eangderau a chreffir ymhob twll a chornel.
Ble mae fy mhechodau?
Cymaint oedd fy mhryder, rhoddais fy mryd ar ymholi. Agorais fy Meibl. Yno deuthum ar draws y proffwydi – rhai bach a mawr – a mynnais holi un o bob carfan.
Dewisais Micha yn gynrychiolydd y proffwydi bach. Roedd ganddo gryn dipyn i’w ddweud am bechod felly tybiwn y byddai’n cydymdeimlo â mi. “Ble mae fy mhechodau?” holais. Heb betruso, atebodd: “Yn eigion y môr!” “Bydd yn taflu ein holl bechodau i eigion y môr”.
I gynrychioli’r proffwydi mawr, holais yr un mwyaf efengylaidd. Roedd gennyf rhyw deimlad ym mêr fy esgyrn y byddai gan Eseia air o gysur i mi. “Ble mae fy mhechodau?” holais unwaith eto. Ydyn nhw yn rhywle na ellir eu canfod? Atebodd yntau, fel Micha heb betruso un eiliad: “Mae nhw y tu ôl i gefn Duw” “(Taflodd) fy holl bechodau y tu ôl i’w gefn” (Eseia 38:17).
Draw â mi wedyn at y Testament Newydd i holi o ddoethineb cysegredig rhai o’r apostolion. “Ble mae fy mhechodau?” holais Pedr i ddechrau. Mewn syndod, ebychodd Pedr: “Dy bechodau! Dygwyd hwy i ffwrdd gan y bwch dihangol dwyfol”, meddai. “Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren” (1 Pedr 2:24).
At Paul euthum i wedyn. “Ble mae fy mhechodau?” holais ef. Esboniais bod dydd yn dod pan fydd cyrch ddyfal amdanynt; ydyn nhw yn rhywle ble na ellir eu canfod gan Nefoedd na Hades? “Dy bechodau!” ebychodd Paul. “Fe’u hoeliwyd ar y groes! Cymerodd Mab Duw y cwbl ohonynt a diddymu’r ddogfen …a’n gwnâi ni yn ddyledwyr trwy ei hoelio ar Ei Groes gan ymhyfrydu yn ei dileu a’i llwyr dinistrio.”
Talwyd y ddyled yn llwyr. Fy mhechodau a’i hoeliodd Ef i’r groes a’i law ddwyfol Ef ei Hun hun a gymerodd y morthwyl i hoelio’r ddogfen at y groes a’i diddymu unwaith ac am byth!
Fy mhechod – rwy’n llonni wrth feddwl am hyn –
Fe’i cymrodd at fryn Calfari;
Fe’i hoeliodd i’w groes a rhyddhaodd fy maich
Mola Dduw, Mola Dduw f’enaid i!
Yn eigion y môr! Y tu ôl i gefn Duw! Dygwyd gan y Bwch Dihangol! Hoeliwyd ar y groes! Cwbl ofer felly fydd chwilio a cheisio fy mhechodau mwyach!”
Yn gywir,
Bill Hughes