Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 2 Awst 2020

29 Gorffennaf 2020 | gan Mari Jones | Ioan 12

Yr wyf fi wedi dod i’r byd yn oleuni, ac felly nid yw neb sy’n credu ynof fi yn aros yn y tywyllwch.

Ioan 12:46

Goleuni

Pwy ohonom yn ei dro nad yw’n hoffi cael cosi ei gefn? Efallai mai dyna fel y teimlai ambell goeden ifanc yng Ngheunant y Felin yma pan ddechreuodd y sbrigyn cyntaf о eiddew grafangio i fyny ei boncyff.

Hwyrach iddi groesawu’r gwmnïaeth ar y dechrau. Ychydig a feddyliai bryd hynny pa beth a ddigwyddai iddi. 0nd fel y treiddia gwreiddiau’r eiddew fwyfwy i risgl y goeden, daw yn fwyfwy ymwybodol ei fod yno.

Brig y goeden yw nod yr eiddew, a chlyma’n glòs amdani yr holl ffordd i fyny. Ac fel y nadredda ei ffordd i fyny, taena ei dyfiant о ddail bytholwyrdd fel mantell dros ddail y goeden sy’n ei gynnal. Diflanna’r goeden fodfedd wrth fodfedd, nes inni sylweddoli o’r diwedd fod mwy o’r eiddew nag o’r goeden yn y golwg.

Anodd mwyach yw i oleuni’r haul dreiddio trwy dyfiant trwchus yr eiddew at ddail y goeden ei hunan. Ar ben hynny, mae’r goeden yn darganfod na all ei dail anadlu mwyach. A dyna ddechrau’r diwedd. Mae ei dyddiau wedi’u rhifo.

Caiff pob planhigyn ei gynhaliaeth о ddwy ffynhonnell wahanol. Fe sugna’r gwreiddiau fwynau o’r ddaear ac fe anadla’r dail ddeuocsid carbon o oleuni’r haul. Fe dry’r goeden yr elfennau hyn yn fwyd cynhaliol iddi ei hun. Ond rhaid cael pridd a haul. Er i’r gwraidd ffynnu, marw a wna unrhyw blanhigyn oni chaiff oleuni.

Mae enghreifftiau yng Ngheunant y Felin о goed talgryf, hardd wedi disgyn yn garnedd marw i’r llawr. Unwaith y caiff yr eiddew afael, nid oes ganddo barch at na chryfder na harddwch. A dyna derfyn ar werth a defnyddioldeb y goeden. Ei gwerth bellach yw ei llosgi. Ond yn eironig ddigon, daw y goeden farw â’r eiddew i lawr yn deilchion rhacs gyda hi.

Ceisia’r Un Drwg gymryd drosodd ein bywydau ninnau, gan gynnig cysur a diddanwch. Pechod yw unrhyw beth a fyn ein llywodraethu, ar wahân i’r Arglwydd Iesu Grist. Gall fod yr human, cyffuriau, chwant у cnawd neu fateroliaeth – unrhyw beth a’n caethiwo. Ei bwrpas yw ein cwympo, difetha ein defnyddioldeb i Dduw. Ceisia atal y goleuni nefol rhag tywynnu arnom, rhag inni sylweddoli’r gwir amdanom ein hunain a’n pechod. Diolch am wyrth gras sydd â’r gallu i dorri i mewn a llewyrchu yn ein tywyllwch.

O! tyn
Y gorchudd yn y mynydd hyn;
Llewyrched Haul Cyfiawnder gwyn
О ben y bryn bu addfwyn Oen
Yn dioddef dan yr hoelion dur,
O gariad pur i mi mewn poen.
HUGH JONES, MAESGLASAU

 

Anfonodd Iesu Paul at y Cenhedloedd ‘i agor eu llygaid, a’u troi o dywyllwch i oleuni, o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn iddynt gael maddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd ynof fi’ (Actau 26:18).

Mari Jones, Daw’r Wennol yn Ôl​