Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 18 Gorffennaf 2020

17 Gorffennaf 2020 | gan Steffan Job | Ioan 6

Atebodd Simon Pedr ef, “Arglwydd, at bwy yr awn ni? Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti, ac yr ydym ni wedi dod i gredu a gwybod mai ti yw Sanct Duw.”

Ioan 6:68-69

 

Medraf droi at Iesu gan y bydd yno i mi bob amser.

Medraf droi at Iesu gan ei fod yn cydymdeimlo ac yn deall.

Medraf droi at Iesu gan ei fod yn Arglwydd sy’n rheoli pob dim.

Medraf droi at Iesu gan fod ganddo eiriau’r bywyd tragwyddol.

Medraf droi at Iesu gan ei fod yn gadarn mewn byd ansicr.

Medraf droi at Iesu gan ei fod yn y nefoedd yn paratoi lle i mi.

Medraf droi at Iesu gan ei fod yn cynnal y cosmos.

Ond yn fwy na dim medraf droi at Iesu gan ei fod yn fy ngharu… ‘Fe roes ei ddwylo pur ar led, fe wisgodd goron ddrain, er mwyn i (mi) y brwnt gael bod yn wyn fel hyfryd liain main’.

Ar adegau does dim arall y medrwn ei wneud ond rhedeg i’w freichiau, claddu ein pen yn ei fynwes a’i gofleidio gan wybod ein bod yn saff, ein bod gartref a’n bod wedi’n caru yn fwy nag y medrwn byth ei ddirnad.

Mae ei freichiau yna i chi bore ‘ma – at bwy arall yr awn ni?

Steffan Job (Capel y Ffynnon, Bangor)​