Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 17 Gorffennaf 2020

16 Gorffennaf 2020 | gan Iwan Rhys Jones | Mathew 6

Felly, gweddïwch chwi fel hyn: ‘Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw.’

Mathew 6:9

“Ein Tad yr hwn wyt yn у nefoedd…” Mae’n siŵr bod y geiriau hyn ymysg y rhai mwyaf adnabyddus yn y Testament Newydd i gyd. Mae’n debyg y byddai sawl Cristion yn dweud bod y geiriau hyn yn annwyl iawn iddynt, ac yn eu hatgoffa о un o wirioneddau gwerthfawr y ffydd Gristnogol, sef bod Duw yn dad iddynt.

Gadewch inni fyfyrio ychydig ar y defnydd o’r gair ‘tad’ yn y Beibl.

Prin yw’r enghreifftiau o Dduw yn cael ei ddisgrifio a’i gyfarch fel tad yn yr Hen Destament, ond yn y Testament Newydd fel arall y mae hi.

Trwy gydol gweinidogaeth lesu Grist mae’n drawiadol ei fod yn gyson, naill ai yn cyfeirio at Dduw fel ei dad, neu yn ei gyfarch fel tad, а hynny wrth gwrs, am ei fod yn fab iddo. Yr eithriad trawiadol yw yn ing y groes; gan ddyfynnu Salm 22, mae’n dweud, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” (Marc 15:34).

Meddyliwch y fath fraint oedd hi felly, bod Iesu Grist yn dysgu ei ddisgyblion hefyd i gyfarch Duw fel tad. Nid oedd hi’n arferol, mae’n debyg, i’r Iddewon gyfarch Duw fel tad, ond cyn cyflwyno ‘gweddi’r Arglwydd’ i’w ddisgyblion mae Iesu’n dweud wrthynt, “Ond pan fyddi di’n gweddïo … gweddïa ar dy Dad” (Mathew 6:6).

Mae defnyddio’r gair tad ar gyfer Duw yn pwysleisio natur ein perthynas â Duw – perthynas deuluol. Ar ben hynny, daw agosrwydd ein perthynas â Duw i’r amlwg o gofio mai’r gair Aramaeg abba y byddai Iesu wedi ei ddefnyddio. Dyma air a fyddai’n cael ei ddefnyddio i ddynodi agosrwydd a thynerwch arbennig, fel plentyn yn cyfarch tad. Daeth hyn yn fyw iawn i mi rai blynyddoedd yn ôl tra ar ymweliad ag Israel. Yr oeddwn yn ymweld â safle archaeolegol ac yr oedd dyn arall yn sefyll yn f’ymyl yn edmygu’r olygfa. Yn sydyn, dyma lais bach yn dod o’r tu cefn inni, “Abba, abba.” Roedd mab bach y gŵr yn ceisio sylw ei dad!

Ein braint ni fel Cristnogion yw cael cyfarch Duw fel ‘Ein Tad’.

Iwan Rhys Jones, ‘Tad’, Geiriau Bywyd​