Yn awr, gweld mewn drych yr ydym, a hynny’n aneglur; ond yna cawn weld wyneb yn wyneb. Yn awr, anghyflawn yw fy ngwybod; ond yna, caf adnabod fel y cefais innau fy adnabod.
1 Corinthiaid 13:12
Rwy’n anfon dyfyniad atoch o Esboniad gan Dr. James Montgomery Boice ar Efengyl Ioan, lle mae’n siarad am Dr Donald Gray Barnhouse, pregethwr adnabyddus o’r Unol Daleithiau fu’n weinidog ar y 10fed eglwys Bresbyteriadd yn Philadelphia am nifer o flynyddoedd.
“Un haf, pan oeddwn yn fachgen, es ar drip gyda’r teulu i Galiffornia. Roedd yn un o deithiau y cylchgrawn Eternity, ac roedd nifer fawr o bobl yno gan gynnwys Donald Gray Barnhouse. Un diwrnod aeth nifer ohonom i Monterey lle roedd parc adloniant. Mewn un adeilad gwelsom gasgen fawr iawn, tua saith neu wyth troedfedd ar draws a thua pedwar deg i bum deg troedfedd o hyd. Roedd yn gorwedd ar ei hochor ac yn troi a’r her oedd cerdded trwyddi heb ddisgyn.
Am ryw reswm roedd yr her arbennig yma’n apelio at Dr Barnhouse, felly dechreuodd arni. Yn anffodus, ac yntau dim ond wedi mynd rhyw ddwy neu dair llathen ar hyd-ddi, roedd ei draed yn uwch na’i ganol ac i lawr â fo. Y peth cyntaf welodd bawb oedd ei fod yn rholio o gwmpas y gwaelod. Rhedodd y dyn oedd yn rhedeg yr atyniad allan i stopio’r gasgen, a daeth Barnhouse allan ohoni. Yna dywedodd, “Cychwynnwch hi eto. Dwi’n mynd i roi cynnig arall arni.”
Dywedodd y dyn oedd yn gyfrifol am y gasgen, “Arhoswch funud. Dylech wybod yn y lle cyntaf fod cyfrinach ynglŷn â sut i gerdded drwy’r gasgen. Dach chi’n gweld y drych yn y pen draw?”
“Ydw” dywedodd Barnhouse.
“Wel be dach chi’n ei weld yn y drych?”
“Dwi’n eich gweld chi,” atebodd Barnhouse.
“Dyna ni,” dywedodd y dyn. “Dach chi’n fy ngweld i. Nawr te y tro yma, wrth i chi gerdded drwodd, anghofiwch am y ffaith fod y gasgen yn troi. Peidiwch hyd yn oed ag edrych arni. Yn hytrach edrychwch ar y drych. Wrth wneud hynny mi fyddwch yn gwybod sut i sefyll yn syth a byddwch yn gallu addasu cyflymder eich camau i’ch cadw rhag disgyn.”
Y tro yma pan ddechreuodd y gasgen droi llwyddodd Barnhouse i gerdded drwyddi’n fuddugoliaethus.
Y gyfrinach i gerdded drwy’r gasgen oedd cadw eich llygaid ar y dyn oedd yn gyfrifol amdani.
Mae’r un peth yn wir mewn materion ysbrydol. Pwy sy’n gyfrifol am ddigwyddiadau eich bywyd chi, yr uchelfannau a’r iselfannau, yr amseroedd llawen, yr argyfyngau a’r siomedigaethau? Yr ateb yw: Duw! Pwy sy’n rheoli’r cyfan? Duw!
Sut, felly, mae modd i’r Cristion fynd trwy fywyd heb golli ei gydbwysedd ysbrydol? Yr ateb ydy: Drwy gadw eich golwg ar Dduw! Gallwn hefyd ymestyn y darlun gan dynnu sylw at y ffaith nad ydym yn gweld Duw’n uniongyrchol yn y bywyd hwn; caniateir i ni weld adlewyrchiad ohono yn ei Air ysgrifenedig. Y Beibl yw’r drych sy’n dangos Duw i ni. “Yn awr, anghyflawn yw fy ngwybod; ond yna, caf adnabod fel y cefais innau fy adnabod” (1 Cor. 13:12).”
Yn gywir,
Bill Hughes