Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 14 Gorffennaf 2020

13 Gorffennaf 2020 | gan Meirion Thomas | Salm 103

Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD, a’r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd.

Salm 103:1

 

Rwy’n credu y byddai’r mwyafrif ohonon ni’n dweud mai un o’r pethau rydyn ni’n golli fwyaf ar y Sul yw bod mewn cynulleidfa yn canu mawl gyda’n gilydd. I geisio gwneud i fyny am y golled, mae llawer o eglwysi wedi manteisio ar recordiau o ganu corawl a chynulleidfaol, a chawn ddewis eang o emynau, salmau a chaneuon ysbrydol, hen a newydd. Ond ’dyw hynny ddim ’run peth â’r cyd-ganu rydyn ni wedi arfer ag ef am y rhan fwyaf o’n bywyd Cristnogol. Mae’r salm hon yn ffocysu ar foliannu Duw’n bersonol ac yn gynulleidfaol. Dair gwaith ar ddechrau’r salm, a phedair gwaith ar ei diwedd rydyn ni’n cael ein hannog: “Bendithia’r ARGLWYDD”. Mae saith gwaith yn rhoi i ni anogaeth berffaith i barhau i ddiolch i Dduw, ei addoli, a’i ddyrchafu. ’Does ’na’r un deisyfiad yn y salm; diolchgarwch angerddol sy’n goleuo pob llinell. Yng ngeiriau A. Motyer, “admiring gratitude…shines through every line.”

Mae’r salmydd yn siarad â’i hunan – â’i enaid – pwerdy cudd ei fywyd. (Mae Paul Tripp yn hoff o ddweud, “no one is more influential in your life than you are, because no one talks to you more than you do.”) Roedd angen i ganolbwynt rheoli ei fywyd gael ei ddyrchafu gan foliant. Mae angen olew moliant ar fy nghalon innau. Os yw’n bwysig porthi’r corff â bwyd maethlon, fitaminau a mwynau, mae’r un mor bwysig porthi’r enaid ag elfennau iachusol moliant. Pan fo’r egni ysbrydol yn isel fe all mai grym mawl yw’r tonig sydd ei angen i’n hadfywio a chodi’n gobeithion.

Y rheswm pennaf am ein diffyg moliant yw anghofrwydd; dyna pam mae’r salmydd yn ein rhybuddio  i beidio ag “anghofio’i holl ddaioni”. Mae am ein cyffroi i ddwyn i gof a gwerthfawrogi’r “holl ddaioni” hynny. Mae ’na stôr ddiddiwedd o fendithion sydd angen i ni eu henwi a’u cyfrif “un ac un” er mwyn i ni gael ein synnu unwaith eto at “gymaint a wnaeth Duw i ddyn”. Mae’r salmydd yn mynd yn ei flaen i restru’r gwahanol resymau dros fendithio’r Arglwydd trwy ganolbwyntio ar briodoleddau a gweithredoedd mawrion Duw. Gadewch i ni edrych ar rai ohonyn nhw…

  • Gras Duw. Mae’n cael ei amlygu yn ei haelioni ac yn enwedig ym maddeuant ein “holl gamweddau”, ein hiechyd ysbrydol a’n gwaredigaeth; yn ei gariad, ei drugaredd a’i ddaioni, ac yn ei allu i adnewyddu’n ieuenctid (adnodau 2-5). Oni ddylai hyn gyffroi’r enaid ac ysgogi’r galon a’r llais i ganu mawl? Bydd cofio haelioni personol yr Arglwydd yn ein symbylu i’w werthfawrogi a’i addoli.
  • Gogoniant Duw. Mae’n ogoneddus yn ei gyfiawnder, ei farn, ei dosturi a helaethrwydd ei gariad hollgwmpasog (adnodau 6-16). Nid gwirioneddau haniaethol yw’r rhain ond gwirioneddau real yn hanes Moses a phobl Israel. Mae llawer o’r ymadroddion sy’n cael eu defnyddio yma yn ddyfyniadau uniongyrchol o lyfr Exodus. Mae adnod 8 yn un ohonyn nhw: “Trugarog a graslon yw’r ARGLWYDD, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb”. Dyma’r union eiriau a lefarodd Duw wrth Moses ar Fynydd Sinai wrth iddo addo arddangos ei ogoniant ac amlygu ei bresenoldeb (Ex. 34:6). Gogoniant Duw yng Nghrist yw penllanw ei ysblander a’i fawrhydi a dylai ein hysgogi i fendithio’n Tad sy’n ein hadnabod ac yn ein cofio yn ein gwendid.
  • Grym a gallu Duw. Mae ei gadernid a’i nerth i’w weld yn ei gariad tragwyddol a’i deyrnasiad a’i lywodraeth sofran (adnodau 17-19). Mae ei gariad yr un mor fawr â’i natur dragwyddol ac anfeidrol. Mae wedi’i selio mewn cyfamod cry’ sy’n parhau am byth, addewid a chytundeb sy’n hawlio’n parch dyfnaf mewn ofn ac ufudd-dod. Ac mae gorsedd sefydlog yr Arglwydd wedi’i gosod yn y nefoedd a’i hawdurdod a’i rheolaeth yn ddigymar. Dylai’r pethau sicr hyn danio’n moliant i Frenin y Nefoedd. “Pwy fel ti all ganu’i glod.” Hyd yn oed pan fo pethau’n anodd gall moliant roi i ni’r llawenydd hwnnw yn yr Arglwydd fydd yn troi’n nerth digonol i ni. Mae’r fraint anferthol o gael ymuno â’r “angylion, yr holl luoedd a’i holl weithredoedd ym mhob man o dan ei lywodraeth” yn dyrchafu’n heneidiau i amcan ac ystyr bywyd nad oes mo’i hafal.

Meirion R. Thomas, Malpas Road