Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 13 Gorffennaf 2020

3 Gorffennaf 2020 | gan Meirion Thomas | Eseia 6

“…yr wyf â’m llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd.”

Eseia 6:5

 

Ar 29 Ebrill 1993 cafodd Palas Buckingham ei agor am y tro cyntaf i’r cyhoedd. Yn ôl y sôn, daeth un twrist o America allan yn siomedig gan ei fod wedi disgwyl y byddai, am ei £8, wedi gweld Ei Mawrhydi! Nid siom a gafodd Eseia y dydd hwnnw pan welodd ysblander a gogoniant Duw, y Brenin hollalluog, yn ei deml. Yn hytrach, yr hyn a gafodd ef oedd gweledigaeth ysgytwol a drawsnewidiodd ei fywyd a’i weinidogaeth. Effeithiodd yn ddwfn ar ei farn amdano’i hun, am eraill o’i gwmpas, am Dduw, am yr aberth iawnol, a’i alwad bersonol ef i wasanaethu. Mae bob amser angen i ni gael gweledigaeth glir o’r Duw rydym yn ei addoli, yn ei wasanaethu ac yn ei rannu ag eraill.

Mae’r adeg y digwyddodd y weledigaeth yn holl bwysig am ei bod yn rhoi i ni’r cyd-destun yn nhermau amser a lle, ac yn ein hatgoffa fod Duw yn camu i mewn i hanes i ddelio â sefyllfaoedd bywyd go-iawn. Roedd Usseia, brenin Jwda a oedd wedi teyrnasu am gyfnod maith o 42 o flynyddoedd llewyrchus, wedi marw. Ond nid cyn iddo “fynd yn rymus”, droseddu yn erbyn Duw trwy hawlio iddo’i hun swyddogaeth a gwasanaeth oedd wedi’u neilltuo’n benodol i’r offeiriaid. Yn ôl 2 Cronicl 26 “aeth ei falchder yn drech nag ef; troseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD ei Dduw trwy fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD i arogldarthu ar allor yr arogldarth”. Ac yn yr union le fyddai’n dwyn i gof Eseia fethiant trychinebus brenin daearol, meidrol mae’n cael gweledigaeth o’r Brenin Anfeidrol sy’n eistedd ar ei orsedd ogoneddus yn dragywydd.

Mae gorsedd uchel, ddyrchafedig Duw wedi’i hamgylchu gan lu nefol sy’n datgan, y naill wrth y llall, “Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd; y mae’r holl ddaear yn llawn o’i ogoniant”. Mae canfod y fath olygfa o ogoniant trosgynnol Duw yn creu ymdeimlad o’i aflendid pechadurus yn Eseia. Mae’n peri iddo roi mynegiant i hynny trwy ddefnyddio’r gair “Gwae”. Mae’r un gair eisoes wedi cael ei ddefnyddio ganddo chwe gwaith ym Mhennod 5 wrth broffwydo tynged gwahanol garfannau yn Jwda oherwydd eu pechodau a’u hanufudd-dod. Ond yma cydnabod ei bechod personol ef ei hun y mae: “Gwae fi!”. Rhaid wrth argyhoeddiad o’r fath os ydym am weld ein natur go-iawn gerbron Duw Sanctaidd. Mae hefyd yn gweld nad oes obaith na meddyginiaeth yn unlle o’i gwmpas gan mai ymysg pobl aflan eu gwefusau yr oedd yn byw. Ac yna, o allor yr aberth iawnol daw seraff â marworyn i gyffwrdd â’i enau. Pam ei enau? I’w argyhoeddi, efallai, bod yr hyn a ddeuai o’i enau mor wahanol i’r hyn a ddeuai o enau’r llu nefol, “Sanct, Sanct, Sanct”. Neu, o bosib, am fod y seraff yn synhwyro mai gwefusau wedi’u glanhau o ddrygioni a phechod oedd angen pennaf gŵr fyddai’n proffwydo’n huawdl yn enw’r ARGLWYDD. Mae’n cyfiawnder ni ar ei orau yn aflan ac angen ei lanhau a’i buro. Mae angen meddyginiaeth sy’n carthu a diheintio porth fy ngenau, fy ngwefusau, i symud fy euogrwydd a gwneud iawn am fy mhechod. Ond mae’r efengyl ogoneddus yn cyhoeddi fod Crist wedi delio â phechod ffieiddiaf fy natur ac yn maddau fy holl gamweddau.

’Nawr gall Eseia glywed y comisiwn i fynd “drosom ni”. Pwy sy’n barod i fynd a sôn am y Duw Sanctaidd? Pwy sy’n barod i bregethu a thystiolaethu i allu’r aberth iawnol? Y rhai sydd â phrofiad personol o’i allu a’i ras glanhaol Ef. Mae Eseia’n barod i fynd: mae ei ufudd-dod ef yn tanlinellu anufudd-dod Usseia. Ei fodlonrwydd i fynd hyd yn oed â neges heriol i’r gweddill sydd wrth galon amcan Duw. Ydym ni mor barod i gyhoeddi a rhannu’r newyddion mae Duw wedi’u rhoi i ni? “Dyma fi, anfon fi Arglwydd”.

Mae efengyl Ioan (12:4) yn dweud wrthym i Eseia “weld gogoniant Iesu” ac mai “amdano ef yr oedd yn llefaru”. Yn Iesu y mae’r mynegiant llawn a therfynol o ogoniant Duw i’w weld, ac os ydym wedi credu’r efengyl rydym wedi cael cip ar y gogoniant hwnnw ac yn dyheu am weld mwy a mwy. Wrth i frenhinoedd y ddaear ddod a mynd ac wrth i’w hysblander bylu gadewch i ni barhau i edrych ar “Frenin Aruchel y Nefoedd” ar ei orsedd a phenderfynu ei wasanaethu holl ddyddiau’n hoes.

Meirion R. Thomas​, Malpas Road