Galwad MEC i Weddi Haf 2020
MAE GOGONIANT DUW YN WERTH MWY NA PHOB PETH ARALL
Mae’r argyfwng hwn yn rhoi cyfle inni chwilio ein cymhellion a dod a’n calonnau a phopeth a wnawn yn ôl at galon yr Ysgrythur a’r greadigaeth – gogoniant Duw.
Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i’th enw dy hun, rho ogoniant, er mwyn dy gariad a’th ffyddlondeb. Pam y mae’r cenhedloedd yn dweud, “Ple mae eu Duw?” Y mae ein Duw ni yn y nefoedd; fe wna beth bynnag a ddymuna.
Salm 115:1-3
Pwrpas y greadigaeth yw dangos gogoniant Duw – hynny yw bod Duw yn cael ei weld fel pwy ydyw go iawn. Fe’n gwnaethpwyd ni fel y byddem yn sylweddoli a gwerthfawrogi ei gymeriad gwirioneddol ogoneddus.
Mae Duw yn datgelu ei ogoniant mewn amrywiol ffyrdd. Yn y greadigaeth mae’n dangos i ni ei allu a’i ddaioni, ac yn ein cydwybod a’i farnedigaethau mae’n dangos ei gyfiawnder inni. Ond yng Nghrist yn unig y gwelwn ei ras achubol a maint annirnadwy ei gariad:
Duw mawr y rhyfeddodau maith,
Rhyfeddol yw pob rhan o’th waith,
Ond dwyfol ras, mwy rhyfedd yw
Na’th holl weithredoedd o bob rhyw:
Pa dduw sy’n maddau fel tydi
Yn rhad ein holl bechodau ni?
Pan weddïwn ar i bobl gael eu hachub, rydyn ni’n gweddïo ar i Dduw gael ei ogoneddu. Pan weddïwn ar i Gristnogion gael eu cryfhau a’u cysuro a’u gwneud yn debycach i Grist, rydyn ni’n gweddïo ar i Dduw gael ei ogoneddu. Pan ydyn ni’n byw bywydau Cristnogol ffyddlon, rydyn ni’n byw mewn ffordd sy’n dod â gogoniant i Dduw.
Ond dylai gogoniant Duw fod yn fwy na dim ond un o nifer o’n cymhellion i weddïo, rhaid mai dyna’r cymhelliant blaenllaw ym mhopeth a wnawn. Gogoniant Duw ddylai fod ein prif faich yn y cyfnod ansicr hwn.
“Rhaid iddo ef gynyddu, a mi leihau” (Ioan 3:30).
Gweddïwch mai gogoniant Duw fydd ein consyrn pennaf ym mhob peth.
Mark Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol MEC