Galwad MEC i Weddi Haf 2020
MAE’R YSBRYD GLÂN YN ARGYHOEDDI’R BYD
Rydyn am weld troedigaethau, ond mae’n rhaid i ni sylweddoli na fydd pandemig hyd yn oed yn troi person at Grist – mae angen i’r Ysbryd weithio.
Yr wyf fi’n dweud y gwir wrthych: y mae’n fuddiol i chwi fy mod i’n mynd ymaith. Oherwydd os nad af, ni ddaw’r Eiriolwr atoch chwi. Ond os af, fe’i hanfonaf ef atoch. A phan ddaw, fe argyhoedda ef y byd ynglŷn â phechod, a chyfiawnder, a barn; ynglŷn â phechod am nad ydynt yn credu ynof fi; ynglŷn â chyfiawnder oherwydd fy mod i’n mynd at y Tad, ac na chewch fy ngweld ddim mwy.
Ioan 16:7-11
Pan fydd yr Ysbryd Glân yn datgelu’r gwir am Grist i ni, mae’n arwain at gysur, llawenydd, sicrwydd, a mawl. Ond mae’r effaith ar berson anghrediniol yn wahanol – daw ag argyhoeddiad, gan ddangos ei fod wedi bod yn anghywir am Grist ac yn euog gerbron Duw, ac felly bod angen Gwaredwr arno.
Mae yna ddiffyg argyhoeddiad mawr yn ein gwlad – mae llawer o bobl nad ydyn nhw’n credu yng Nghrist yn ymddangos yn gwbl ddi-hid yn ei gylch. Ond mae angen argyhoeddiad os yw rhywun am ddod yn Gristion. Pam fyddai rhywun yn gofyn i Dduw am faddeuant os nad ydyn nhw’n meddwl eu bod angen hynny, neu’n ymddiried mewn Gwaredwr maen nhw’n meddwl y gallan nhw ei wneud hebddo? “Nid oes angen meddyg ar y rhai sy’n iach, ond y rhai sy’n sâl. Ni ddeuthum i alw’r cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch ” (Marc 2:17). Gwaith Ysbryd Duw yw dangos i bobl eu bod yn bechaduriaid sydd angen Gwaredwr.
Gallwn bregethu a thystio, ond dim ond Ysbryd Duw all ddod ag argyhoeddiad go iawn. Gwaith argyhoeddiadol yr Ysbryd ar ddiwrnod y Pentecost a barodd i’r dorf oedd yn gwrando cael ei dwysbigo a gweiddi, “Ddynion a brodyr, beth wnawn ni?” (Actau 2:37).
Ac Ysbryd Duw yn unig sy’n achub ac yn agor calonnau i gredu’r efengyl (Actau 16:14).
Gweddïwch y bydd yr Arglwydd yn anfon ei Ysbryd i argyhoeddi Pobl o’u hangen a’u dwyn at Grist.
Mark Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol MEC