Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Y mae’r ARGLWYDD gyda thi, ŵr dewr.”
Barnwyr 6:12
Pan gwrddwn ni gyntaf â Gideon mae’n cuddio rhag y Midianiaid. Pe bai rhywun wedi gofyn i’w ffrindiau am ddisgrifiad o Gideon bryd hynny, tybed beth fydden nhw wedi’i ddweud? Go brin y bydden nhw wedi’i ddisgrifio fel “gŵr dewr”. Ac eto dyna sut mae angel yr Arglwydd yn ei gyfarch! Mae Duw yn gweld Gideon fel y byddai gydag Ef wrth ei ochr.
Ond rwy’ wedi gadael rhan gyntaf cyfarchiad yr angel allan – yn ei gyfanrwydd fel hyn mae’n darllen “Y mae’r ARGLWYDD gyda thi, ŵr dewr.” A dyna wahaniaeth mae’n wneud i’n hamgylchiadau a’n bywydau pan fydd yr Arglwydd “o’n hochor ni”. Roedd Duw’n bwriadu cymryd y ffermwr tlawd ofnus hwn a’i droi’n arwr mawr, ac fe gawn ei enw wedi’i restru yn Hebreaid 11 fel un o wroniaid y ffydd. Gwelwn yn yr Ysgrythur enghreifftiau lu o unigolion cyffredin yn cael eu dewis gan Dduw i gyflawni’i bwrpas dwyfol, “Ond pethau ffôl y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio’r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio’r pethau cedyrn, a phethau distadl y byd, a phethau dirmygedig, a ddewisodd Duw, y pethau nid ydynt, i ddiddymu’r pethau sydd. Ac felly, ni all neb ymffrostio gerbron Duw” (1 Corinthiaid 1:27-29).
Efallai’ch bod chi yn rhywun sy’n ymhyfrydu yn eich cryfderau, ond os ydych chi’n debyg i fi, mae’n fwy tebygol eich bod yn ymwybodol o’ch gwendidau a’ch methiannau parhaus, yn rhywun na all, yn ei nerth ei hun, fyth fyw i fyny i safonau uchel Duw. Y gwir plaen yw ei bod yn amhosibl i ni wneud hynny ar ein pen ein hun. Mae Rhufeiniaid 3:23 yn ein hatgoffa o’n cyflwr truenus, “y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.” Ond, os darllenwn ymlaen, fe gawn air sicr o gysur a chalondid, “Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu, yr hwn a osododd Duw gerbron y byd, yn ei waed, yn aberth cymod trwy ffydd. Gwnaeth Duw hyn i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad, yn wyneb yr anwybyddu a fu ar bechodau’r gorffennol yn amser ymatal Duw.”
Beth mae Duw’n ei weld? Pan edrychodd Duw ar Gideon, nid ffermwr ofnus welodd e ond Rhyfelwr nerthol. Pan edrychodd ar y bachgen Dafydd, nid llanc ifanc gwan welodd e ond Brenin mawr. Pan fydd Duw’n edrych arnon ni, nid yr hyn rydyn ni’n gallu’i wneud yn ein nerth ein hunain mae e’n weld, ond beth all e’i wneud trwon ni ac yn ei nerth ef. Mae mor hawdd cael ein llorio gan amgylchiadau, gan enbydrwydd yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas, a theimlo na allwn ni gadw i fynd. Ond mae addewid anffaeledig Duw o’n plaid, “…canys efe a ddywedodd, ‘”Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.” Am hynny dywedwn ninnau’n hyderus: “Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?”‘ (Hebreaid 13:5,6).
Yn y pen draw, os ydyn ni’n gredinwyr, pan fydd Duw’n edrych arnon ni dyw e ddim yn gweld ein gwendidau, ein methiannau a’n pechod. Yr hyn mae e’n weld yw aberth ei Fab, ei waed Ef wedi’i dywallt yn ein lle. Y peth gorau allwn ni ei wneud yw cyflwyno’n bywydau, gyda’u holl ffaeleddau, a gweld beth mae Duw am ei wneud â nhw. Gall ein cymryd fel rydyn ni a’n defnyddio er ei ogoniant, y tu hwnt i’n cryfderau a’n doniau. Mae myfyrio ar hyn wedi bod yn galondid i fi; gobeithio y bydd i chithau hefyd.
Tirzah Jones, Malpas Road