Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwneud Marc 54 – Dioddefiadau Crist

1 Mehefin 2020 | gan Emyr James | Marc 15

54 – Dioddefiadau Crist

Marc 15:33-41

A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o’r gloch y prynhawn. Ac am dri o’r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eloï, Eloï, lema sabachthani”, hynny yw, o’i gyfieithu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” O glywed hyn, meddai rhai o’r sawl oedd yn sefyll gerllaw, “Clywch, y mae’n galw ar Elias.” Rhedodd rhywun a llenwi ysbwng â gwin sur a’i ddodi ar flaen gwialen a’i gynnig iddo i’w yfed. “Gadewch inni weld,” meddai, “a ddaw Elias i’w dynnu ef i lawr.” Ond rhoes Iesu lef uchel, a bu farw. A rhwygwyd llen y deml yn ddwy o’r pen i’r gwaelod. Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, “Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn.” Yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hirbell; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome, gwragedd a fu’n ei ganlyn ac yn gweini arno pan oedd yng Ngalilea, a llawer o wragedd eraill oedd wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem.

Geiriau Anodd

  • Gwialen: Polyn.
  • Canwriad: Milwr Rhufeinig.

Cwestiwn 1

Beth mae geiriau olaf Iesu yn dangos i ni?

Cwestiwn 2

Pam ydych chi’n meddwl fod Marc yn tynnu ein sylw at eiriau’r canwriad?

  Efallai erbyn hyn eich bod chi’n gobeithio bod dioddefiadau Crist bron â gorffen. Ers yr oriau yna y treuliodd yn gweddïo yn yr ardd mae wedi dioddef cymaint. Mae wedi cael ei fwrw, ei boeri arno, ei watwar, ei chwipio, ei wisgo â choron ddrain, ei hoelio ar ddarn o bren a’i hongian i farw. Wrth i hyn i gyd ddigwydd mae’r bobl o’i amgylch wedi bod yn chwerthin, rhegi a gweiddi arno. Ond credwch neu beidio, mae’r gwaethaf eto i ddod.

  Trwy ei fywyd roedd Iesu wedi siarad am y cariad arbennig oedd yn bodoli rhyngddo a’i Dad. Ond yn awr, wrth iddo ddioddef, a’i ddisgyblion agosaf wedi rhedeg i ffwrdd, mae Duw ei hun yn ei adael hefyd. Am y tro cyntaf erioed, dydy Iesu ddim yn teimlo presenoldeb bendithiol Duw. Nid yn unig mae Duw yn cuddio ei wyneb oddi wrtho, ond mae’n cosbi Iesu am bechodau’r byd. Wrth iddo gael ei ladd, roedd Duw yn cosbi Iesu am yr holl bethau drwg rydym ni wedi eu gwneud. Er ei fod yn gwbl berffaith a dim yn haeddu marwolaeth, fe aberthodd ei hunan er mwyn delio â’n pechodau ni.

  Mae gwaith Iesu yn cael ei gyfleu yn wych wrth i ni glywed fod llen y deml wedi rhwygo o’r pen i’r gwaelod. Pwrpas y llen drwchus, enfawr yma oedd cuddio’r man arbennig lle roedd Duw wedi addo bod yn bresennol; i ddangos fod dim mynediad i bobl ddod yn syth at Dduw oherwydd eu pechod. Yr unig berson oedd yn cael mynd i mewn oedd yr archoffeiriad, unwaith y flwyddyn er mwyn aberthu dros bechodau’r bobl. Ond nawr mae’r llen wedi ei rhwygo, o’r top i lawr. Mae Duw ei hun wedi gweithredu er mwyn agor ffordd i ni ddod i mewn i’w bresenoldeb. Roedd Iesu’n gwneud gwaith archoffeiriad perffaith, yn aberthu ei hunan yn aberth perffaith dros ei bobl. Fe ddioddefodd boen uffern ei hun, a chael ei wrthod gan ei Dad, fel ein bod ni’n gallu cael perthynas ag ef.

Cwestiwn 3

Beth ydych chi’n meddwl roedd e’n ei olygu i Iesu gael ei wrthod gan y Tad?

Cwestiwn 4

Ym mha ffyrdd y gallwn ni fwynhau ein rhyddid i ddod mewn i bresenoldeb Duw?

Gweddïwch

gan ddiolch i Iesu Grist am fod yn fodlon dioddef marwolaeth mor erchyll er mwyn i chi gael bywyd drwy gredu ynddo ef.​