53 – Y Brenin ar Groes
Marc 15:16-32
Aeth y milwyr ag ef ymaith i mewn i’r cyntedd, hynny yw, i’r Praetoriwm, a galw ynghyd yr holl fintai. A gwisgasant ef â phorffor, a phlethu coron ddrain a’i gosod am ei ben. A dechreusant ei gyfarch: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” Curasant ei ben â gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a’i wisgo ef â’i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i’w groeshoelio. Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o’r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef. Daethant ag ef i’r lle a elwir Golgotha, hynny yw, o’i gyfieithu, “Lle Penglog.” Cynigiasant iddo win â myrr ynddo, ond ni chymerodd ef. A chroeshoeliasant ef, a rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt i benderfynu beth a gâi pob un. Naw o’r gloch y bore oedd hi pan groeshoeliasant ef. Ac yr oedd arysgrif y cyhuddiad yn ei erbyn yn dweud: “Brenin yr Iddewon.” A chydag ef croeshoeliasant ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith iddo. Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, gan ysgwyd eu pennau a dweud, “Oho, ti sydd am fwrw’r deml i lawr a’i hadeiladu mewn tridiau, disgyn oddi ar y groes ac achub dy hun.” A’r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd â’r ysgrifenyddion, yn ei watwar wrth ei gilydd, ac yn dweud, “Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun. Disgynned y Meseia, Brenin Israel, yn awr oddi ar y groes, er mwyn inni weld a chredu.” Yr oedd hyd yn oed y rhai a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.
Geiriau Anodd
- Mintai: Grŵp.
- Porffor: Lliw oedd ar y pryd yn cael ei gysylltu â phobl mewn awdurdod.
- Ymgrymu: Plygu lawr.
- Myrr: Sylwedd sy’n cael ei gynhyrchu o goed arbennig.
- Bwrw coelbren: Ffordd o wneud penderfyniad drwy hap (tebyg i rowlio deis).
Cwestiwn 1
Pam ydych chi’n meddwl fod y bobl i gyd mor greulon tuag at Iesu?
Cwestiwn 2
Beth rwystrodd yr arweinwyr crefyddol rhag gweld pwy oedd Iesu?
Ym Marc 15:1-15 fe welsom Pilat yn defnyddio’r teitl ‘Brenin yr Iddewon’ dair gwaith. Wrth ddechrau ei boenydio mae’r milwyr yn ei alw wrth yr enw hwnnw hefyd. Er mwyn gwneud hwyl ar ei ben dyma nhw’n rhoi gwisg o liw brenhinol iddo ac yn plygu o’i flaen. Wrth wneud hyn maen nhw’n cydnabod yr hyn rydym ni wedi ei weld dro ar ôl tro – dydy Iesu ddim yn Frenin arferol. Mae brenhinoedd fel arfer yn gwisgo coron aur; mae’r goron sy’n cael ei rhoi ar ben Iesu yn un wedi ei gwneud o ddrain. Roedd drain yn rhan o’r gosb roddodd Duw i ddyn pan syrthiodd i bechod gyntaf yng Ngardd Eden, ac yn awr mae Iesu’n dangos ei fod ef, y Brenin, yn cymryd y gosb honno ac yn mynd i ddangos ei fawredd a’i ogoniant trwyddo.
Wrth fynd ag ef allan, mae’n amlwg fod y noson hir a’r profiadau poenus wedi cael effaith ar Iesu – mae’r saer o Nasareth yn cael trafferth i gario ei groes bren. Gyda help maen nhw’n cyrraedd y man cywir, ac mae’n cael ei groeshoelio gyda dau leidr. Er i rywun gynnig gwin a myrr iddo er mwyn lleihau’r boen, mae Iesu’n gwrthod gan wybod fod rhaid iddo dderbyn y gosb yn llawn arno ef ei hun.
Eto mae’r teitl ‘Brenin yr Iddewon’ yn cael ei roi iddo, y tro hwn wedi ei ysgrifennu uwch ei ben. Oni bai ein bod yn sylweddoli fod Iesu yn gwybod beth roedd yn ei wneud, ac mai’r unig ffordd y gallai achub ei bobl oedd trwy dderbyn y gosb am eu pechodau, yna byddai’r olygfa hon yn torri ein calonnau yn llwyr. Wrth i Iesu hongian ar groes greulon, mae pawb yn gwneud hwyl ar ei ben – y Rhufeiniaid, yr Iddewon, hyd yn oed y dynion oedd yn marw yr un pryd ag ef.
Ar ddiwedd yr adran mae’r arweinwyr crefyddol yn awr yn ei alw’n Frenin Israel. Maen nhw eisiau iddo ddangos mai ef yw’r Meseia drwy ei achub ei hunan, fel yr achubodd eraill. Maen nhw mor ddall. Dyma oedd yn gorfod digwydd i’r Meseia. Wrth gwrs y byddai wedi gallu ei achub ei hunan – and er mwyn achub eraill fe ddewisodd beidio.
Cwestiwn 3
Beth ydych chi’n meddwl oedd yn helpu Iesu wrth wynebu hyn i gyd?
Cwestiwn 4
Sut ydych chi’n teimlo wrth glywed am yr hyn a ddioddefodd Iesu er eich mwyn chi?
Gweddïwch
y bydd Duw yn helpu chi i dderbyn Iesu fel y mae, nid fel rydych chi’n disgwyl iddo fod.