52 – Y Dieuog a’r Euog
Marc 15:1-15
Cyn gynted ag y daeth hi’n ddydd, ymgynghorodd y prif offeiriaid â’r henuriaid a’r ysgrifenyddion a’r holl Sanhedrin; yna rhwymasant Iesu a mynd ag ef ymaith a’i drosglwyddo i Pilat. Holodd Pilat ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd yntau ef: “Ti sy’n dweud hynny.” Ac yr oedd y prif offeiriaid yn dwyn llawer o gyhuddiadau yn ei erbyn. Holodd Pilat ef wedyn: “Onid atebi ddim? Edrych faint o gyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn dy erbyn.” Ond nid atebodd Iesu ddim mwy, er syndod i Pilat. Ar yr ŵyl yr oedd Pilat yn arfer rhyddhau iddynt un carcharor y gofynnent amdano. Ac yr oedd y dyn a elwid Barabbas yn y carchar gyda’r gwrthryfelwyr hynny oedd wedi llofruddio yn ystod y gwrthryfel. Daeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn i Pilat wneud yn ôl ei arfer iddynt. Atebodd Pilat hwy: “A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?” Oherwydd gwyddai mai o genfigen yr oedd y prif offeiriaid wedi ei draddodi ef. Ond cyffrôdd y prif offeiriaid y dyrfa i geisio ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt. Atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf â hwn yr ydych yn ei alw yn Frenin yr Iddewon?” Gwaeddasant hwythau yn ôl, “Croeshoelia ef.” Meddai Pilat wrthynt, “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelia ef.” A chan ei fod yn awyddus i fodloni’r dyrfa, rhyddhaodd Pilat Barabbas iddynt, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i’w groeshoelio.
Geiriau Anodd
- Ymgynghori: Trafod.
- Trosglwyddo: Rhoi.
- Gwrthryfelwyr: Pobl sy’n ymladd yn erbyn awdurdod.
- Llofruddio: Lladd.
Cwestiwn 1
Ydych chi erioed wedi cael eich cosbi ar gam?
Cwestiwn 2
Sut ydych chi’n meddwl roedd Barabbas yn teimlo wrth glywed ei fod yn cael mynd yn rhydd?
Mae’r ceiliog wedi canu a’r bore wedi cyrraedd. Mae Iesu wedi cael ei holi drwy oriau hir y nos, wedi cydnabod mai ef yw’r Meseia, ac wedi cael ei gosbi am hynny yn barod. Roedd yr arweinwyr crefyddol un cam yn nes at gael gwared arno o’r diwedd, ond roedd un broblem arall oedd angen ei datrys. Doedd dim hawl ganddyn nhw eu hunain i ladd Iesu, ac felly roedd yn rhaid iddyn nhw berswadio yr awdurdodau Rhufeinig ei fod yn haeddu marw. Dyma nhw’n mynd â Iesu at ddyn o’r enw Pilat, sef arweinydd y Rhufeiniad, ac yn ei gyhuddo o bob math o bethau gwahanol.
Dim ond un o’r cyhuddiadau sydd o ddiddordeb i Pilat, sef a oedd Iesu yn dweud mai ef oedd Brenin yr Iddewon ac felly yn gwrthryfela yn erbyn Rhufain. Mae ymateb Iesu, “Ti sy’n dweud hynny”, yn cadarnhau yr hyn mae Pilat yn ei ddweud, ac yn awgrymu fod Pilat yn gweld fod hynny yn wir. Ond mae’n amlwg nad yw Iesu’n wrthryfelwr cyffredin. Wrth iddo gael ei gyhuddo o bob math o bethau eraill mae Iesu’n aros yn dawel, er mawr syndod i Pilat.
Rydyn ni’n clywed fod Pilat yn ceisio plesio’r bobl drwy ryddhau rhywun iddyn nhw pan fyddan nhw’n dathlu’r Pasg. Mae e’n disgwyl y byddant yn gofyn am Iesu, oherwydd nad oedd wedi gwneud dim o’i le. Ond mae’r prif offeiriaid yn perswadio’r dorf i ofyn iddo ryddhau carcharor o’r enw Barabbas. Roedd y dyn yma wedi bod yn gwrthryfela yn erbyn Rhufain ac yn lladd pobl, ac eto roedd yn well ganddyn nhw fod hwn yn hytrach na Iesu yn mynd yn rhydd.
Dychmygwch beth oedd yn mynd trwy feddwl Barabbas. Roedd e’n gwybod ei fod am gael ei ladd, a’i fod yn gwbl euog. Yna, wrth i’r milwyr ddod i’w gell, yn hytrach na mynd ag ef i gael ei groeshoelio maen nhw’n dweud wrtho ei fod yn rhydd! Roedd yr un euog yn cael cerdded yn rhydd; roedd rhywun arall yn mynd i farw ar groes yn ei le.
Cwestiwn 3
Pam ydych chi’n meddwl fod Pilat wedi gweithredu yn y ffordd a wnaeth?
Cwestiwn 4
Ym mha ffyrdd mae profiad Barabbas yn debyg i brofiad pob un sydd wedi credu yn Iesu?
Gweddïwch
y bydd Duw yn eich helpu chi i wneud y peth cywir ym mhob sefyllfa, ac i beidio â gwneud pethau drwg er mwyn plesio pobl eraill.