‘Dywedodd yntau (y proffwyd), “Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy.” Yna gweddïodd Eliseus, “ARGLWYDD, agor ei lygaid, iddo weld.” Ac agorodd yr ARGLWYDD lygaid y llanc, ac yna fe welodd y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o gwmpas Eliseus.’
2 Brenhinoedd 6:16-17
Roedd pobl Israel unwaith eto’n wynebu gelyniaeth ac atgasedd gan fod byddin Syria wedi dod i ddal Eliseus, gŵr Duw. Eliseus oedd y cyfrwng a ddefnyddiai Duw i ddatguddio’i fwriadau. Ef a rannai â’r bobl oleuni sicr ac anffaeledig gair Duw. Ac mae gair aruchel Duw yn goruwchreoli geiriau, cynlluniau a phwrpasau dynion. Pe llwyddai’r Syriaid i gipio a chael gwared â’r proffwyd gallent roi taw ar lais Duw. Mae ymosodiadau ar awdurdod, hygrededd a geirwiredd yr Ysgrythur mor hen-ffasiwn â’r sarff yn tanseilio gair Duw yn Eden. “A yw Duw yn wir wedi dweud…” (Gen 3:1). Ond gallwn ninnau’n hawdd amau’r Gair a gwrthod ufuddhau iddo. Gall byw mewn diwylliant sy’n gwadu’r Beibl ein gwneud yn llai astud, os nad yn glustfyddar, i air Duw.
Pan welodd gwas Eliseus fod byddin y Syriaid wedi amgylchu dinas Dothan yn ystod y nos mae wedi’i barlysu gan ofn, ac yn ceisio rhyw lygedyn o obaith gan ei feistr (adnod 15). Ond mae’n cael mwy na hynny. Mae’n cael gair o anogaeth a chalondid, “Paid ag ofni”. Dyna un o anogaethau mawr yr Ysgrythur ac mae’n cael ei hailadrodd dro ar ôl tro yn yr Hen Destament a’r Newydd. Ofn yw ymateb greddfol dyn i broblemau, bygythiadau ac ansicrwydd o bob math. Oes ’na, felly, unrhyw un sy’n ddigon mawr i laesu’n hofnau? Rhywun sydd â’r gallu a’r presenoldeb i‘n cysgodi â’i ofal a’i gariad? Ac oes ’na sylfaen sicr i’r anogaeth i beidio ag ofni? Oes, o sylweddoli nad ydym wedi’n gadael ar ein pennau’n hunain. Roedd y gelyn wedi ceisio ynysu Eliseus a’i was trwy anfon meirch a cherbydau a byddin gref i’w hamgylchu. O ble y daw ymwared? Oddi wrth yr ARGLWYDD mewn ateb i weddi’r proffwyd am welediad ysbrydol i’r llanc ofnus. Mae “meirch a cherbydau tanllyd” yn ymddangos o gwmpas Eliseus – symbolau goruwchnaturiol o bresenoldeb, gallu ac amddiffyn Duw. Mae Duw gydag Eliseus ac mae o blaid ei was. “Os yw Duw trosom, pwy all fod i’n herbyn? … Yr ydym ni’n fwy na choncwerwyr trwy yr hwn a’n carodd ni” ( Rhufeiniaid 8:31 a 37).
Ynghyd â’i Air datguddiedig, mae’n dal i fod angen gair Duw o anogaeth arnom fel sylfaen i’n cred a’n bywyd Cristnogol. Ymhen amser gwireddwyd gweinidogaeth broffwydol Eliseus yn “y Gair a wnaethpwyd yn gnawd”, Iesu Grist. Yn ei Fab mae Duw’n llefaru’n derfynol. Mae ei eiriau’n oleuni, yn gariad ac yn fywyd. Pan ddaw’r gelyn, ef yw ein tarian a’n cadarn dŵr. Pan fydd amheuon ac ansicrwydd weithiau’n ein llorio, mae ei air yn dod unwaith eto i’n sicrhau a’n hargyhoeddi – “O Arglwydd, at bwy yr awn ni? Gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol. Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod, mai tydi yw y Crist, Mab y Duw byw” (Ioan 6:68 a 69). Bryd arall, pan fydd anobaith a thywyllwch fel pe’n cau amdanom mae angen i ni, unwaith eto, glywed yr addewid calonogol – “Yn awr, dyma’r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a’th greodd, Jacob, ac a’th luniodd, Israel: “Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; galwaf ar dy enw, eiddof fi ydwyt. Pan fyddi’n mynd trwy’r dyfroedd, byddaf gyda thi, a thrwy’r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi’n rhodio trwy’r tân, ni’th ddeifir, a thrwy’r fflamau, ni losgant di”’ (Eseia 43:1 a 2).
Meirion Thomas, Malpas Road