“Bydd yn gryf a dewr”
Deuteronomium 31
Mae’r geiriau hyn, sy’n cael eu rhoi i Moses gan Dduw, i’w gweld tua diwedd llyfr Deuteronomium. Mae’r ffaith eu bod i’w gweld dair gwaith yn yr un bennod (Deut. 1:6, 7 a 23) yn tanlinellu’r ffaith eu bod o’r pwys mwyaf. Roeddent i’w cyfeirio’n gyffredinol at Israel gyfan, ond yn benodol at Josua. Ef oedd i arwain y genedl i mewn i wlad yr addewid gan fod Duw eisoes wedi dweud wrth Moses y byddai’n marw cyn iddynt groesi’r Iorddonen. Roedd Josua i gymryd lle Moses – tasg arswydus i ŵr ifanc.
Nid cais, nid deisyfiad
Na, gorchymyn yw’r geiriau hyn. Rydyn ni’n dueddol o gredu fod gwendid yn rhywbeth cynhenid sydd bron yn amhosibl i’w feistroli, ond mae Duw’n dweud wrth ei bobl (gan ein cynnwys ni) i fod yn gryf. Ac nid yw Duw’n disgwyl i ni ufuddhau i orchmynion na ellir eu cyflawni. Ar y llaw arall rhaid i ni beidio meddwl mai’n nerth naturiol ni sy’n ein galluogi i wneud ei ewyllys. Geiriau Paul wrth iddo annog Cristnogion Effesus oedd: “Ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef” (Effesiaid 6:10). Rydym yn llwyr ddibynnol arno ef.
Tasg arswydus
’Doedd Israel ddim i feddwl bod concro Canaan yn mynd i fod yn waith hawdd. O gwymp Jericho ymlaen byddai’n golygu rhyfela a thywallt gwaed. A byddai llawer i siom a diffyg llwyddiant. Yn wir, byddai ambell fethiant trychinebus, y gwaethaf o’r cwbl methiant byddin Israel i oresgyn Ai oherwydd anufudd-dod a thrachwant Achan. Byddai rhyw elyn neu’i gilydd i’w wrthwynebu yn wastadol. Pa well cyngor nag eiddo Iago: “Felly, ymddarostyngwch i Dduw. Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych” (Iago 4:7).
Anufudd-dod
Roedd Duw wedi dweud wrth Moses y byddai’r bobl, wedi iddo ef farw, yn anffyddlon, ac o’r herwydd y byddent yn dioddef cosb tan iddynt edifarhau (Deut. 31:16-18). Roedden nhw wedi cael gorchymyn i gael llwyr wared ar lwythau paganaidd Canaan a’u duwiau, ond wnaethon nhw ddim ufuddhau. Roedd eu calonnau wedi troi ymaith oddi wrth y gwir a bywiol Dduw. Rhybudd y Gair i ni yw: “Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw. Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi’n heddiw, rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod” (Hebreaid 3:12&13).
Duw cariadus
Sut gallwn ni fod yn gryf? Sut gallwn ni sefyll yn y dydd drwg? Rhaid i ni atgoffa’n hunain o ble mae’r gorchymyn yn dod – oddi wrth Dduw cariadus, Duw nad yw ei orchmynion yn feichus ond, yn hytrach, er ein lles ysbrydol a thragwyddol. A thrwy gymorth ei ras gallwn ddweud ein bod ni’n ei garu ef – y tri-yn-un Duw a’n carodd ni yn gyntaf. Y Tad, a’n dewisodd ni yng Nghrist “cyn llunio’r byd” ac a’n rhoddodd ni i’w Fab a fu farw i’n gwared o’n pechod; a’r Ysbryd Glân a’n hail-genhedlodd i obaith bywiol ac a sicrhaodd na fyddai’r rhai a ddeuai at y Mab byth yn cael eu bwrw allan. Ydych chi am fod yn gryf? Os felly, ffocyswch eich meddwl ar ffynhonnell eich cryfder.
Duw trugarog
Ond rwy’ wedi bod mor wan ac anffyddlon. Sut galla i fod yn effeithlon yn y dyfodol? Ychydig cyn i Moses farw, dyma’r hyn a ddywedodd ef wrth bobl wan, “Gwyn dy fyd, Israel! Pwy sydd debyg i ti, yn bobl a waredir gan yr Arglwydd? Ef yw dy darian a’th gymorth, a chleddyf dy orfoledd hefyd. Bydd dy elynion yn ymostwng o’th flaen, a thithau’n sathru ar eu huchel-leoedd” (Deut. 33:29). Mae ’na faddeuant i gwrdd â’n pechod, nerth i gwrdd â’n gwendid ac adferiad i gwrdd â’n gwrthgilio.
Duw ffyddlon
Mae’r Arglwydd yn ddigyfnewid ac ni fydd byth yn gadael ei bobl. Mae’n atgoffa Israel o’i ffyddlondeb yn y gorffennol (Deut. 31:3-6) ac yn ymrwymo i fod gyda nhw yn y dyfodol. Dyma’i eiriau calonogol: “Bydd yr Arglwydd dy Dduw yn mynd gyda thi; ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat. Paid ag ofni na dychryn.”
Does dim yn fwy llesol i ni na myfyrio ar esiamplau o ffyddlondeb Duw i’w bobl yn yr Ysgrythur, yn hanes yr Eglwys ac yn ein profiad ni’n hunain. Gwyn ein byd os gallwn, fel Samuel, godi’n Ebeneser a dweud yn gwbl ddiffuant: “Hyd yma y cynorthwyodd yr ARGLWYDD ni” (1 Sam. 7:12).
Mae John Martin yn henuriad yn Eglwys Efengylaidd Llanbed