Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu
Rhufeiniaid 3:24
Cyfiawnder
Dychmygwch yr olygfa: mae’r achos llys yn dirwyn i ben. Mae pawb yn disgwyl dyfarniad y rheithgor, ac yna daw’r gair cwta, ‘dieuog’. Daw bloedd o orfoledd oddi wrth y cyhuddiedig a’i gefnogwyr. Mae pawb yn gwybod bellach bod y cyhuddiadau gwreiddiol yn ffug.
Mae’r olygfa honno yn ein cynorthwyo i ddeall un agwedd ar ystyr y ferf Groeg dikaioô, gair sy’n perthyn i fyd y llys. Cyfieithir y ferf dikaioô fel arfer fel ‘cyfiawnhau’. I werthfawrogi rhywbeth o ystyr y ferf, rhaid ystyried am foment y gair cysylltiedig, sef ‘cyfiawn’.
Pwy yw’r ‘cyfiawn’? Mae’r ‘cyfiawn’ yn yr Hen Destament a’r Testament Newydd fel ei gilydd, yn rhai sydd yn cydymffurfio â safon. Dyma enghraifft: “Gŵr cyfiawn oedd Noa, perffaith yn ei oes; a rhodiodd Noa gyda Duw” (Genesis 6:9).
Ond wrth ystyried y ddynolryw yn gyffredinol, mae’r Apostol Paul yn dod i’r casgliad ysgytwol, “nid oes neb cyfiawn” (Rhufeiniaid 3:10). Mae fel petai pawb yn sefyll o flaen ei well yn y llys a’i gael yn euog. Condemniad yw’r canlyniad.
Ond mae newyddion da, oherwydd, “Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau” (Rhufeiniaid 3:24). O ganlyniad i fywyd a marwolaeth unigryw Iesu Grist daeth tro ar fyd. Yn lle bod pawb, fel petai, yn etifeddion i Adda a’i anufudd-dod, daw statws newydd. Dyma sut mae Paul yn ei fynegi: “Fel y gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid trwy anufudd-dod un dyn [Adda], felly hefyd y gwneir y llawer yn gyfiawn trwy ufudd-dod un dyn [lesu]” (Rhufeiniaid 5:19). Mae’r hyn a wnaeth Iesu Grist yn golygu bod y cyhuddiedig wedi ei ddiheuro, hynny yw, ei fod wedi ei gyhoeddi’n ddieuog. Ond nid dyna’r cyfan! Mae statws newydd cadarnhaol ganddo: cyfiawn!
Rhyfeddod yr efengyl yw bod y cyfiawnhau yn digwydd i’r sawl sydd yn wirioneddol euog, nid i rywrai sydd wedi eu cyhuddo ar gam! O ryfedd ras!
Iwan Rhys Jones, ‘Cyfiawnder’, pennod allan o Geiriau Bywyd a gyhoeddwyd gan MEC yn 2017.