Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Rhufeiniaid 6:23
Bywyd Tragwyddol
Mae’r ymadrodd ‘Bywyd Tragwyddol’ yn codi sawl gwaith yn y Testament Newydd; roedd gan Iesu lawer i’w ddweud am fywyd tragwyddol, gymaint felly, fel bod Simon Pedr wedi datgan ar un achlysur, “Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti” (loan 6:68).
Pa fath o fywyd yw hwn?
Dechreuwn trwy gofio mai Duw byw yw ein Duw ni, a’i fod hefyd yn dragwyddol, hynny yw, heb na dechrau na diwedd iddo. Felly mae Duw, a’r bywyd sy’n eiddo iddo, yn para am gyfnod diddiwedd.
O ganlyniad, mae bywyd tragwyddol yn fywyd sydd yn parhau tu hwnt i amser ond mae hefyd yn dynodi math o fywyd sydd ag ansawdd gwahanol i’r hyn sy’n deillio o’r byd hwn; bywyd y nef os mynnwch.
Mae’r bywyd hwn wedi’i gysylltu mewn modd arbennig iawn â Iesu Grist. Dyma dystiolaeth yr Apostol Ioan am Iesu Grist: “Hwn yw’r gwir Dduw a’r bywyd tragwyddol” (1 Ioan 5:20). Nid yw’n syndod, felly, fod Iesu Grist yn sôn amdano’i hun fel “bara’r bywyd” (Ioan 6:35), ac fel yr un sy’n rhoi ‘dŵr bywiol’ (Ioan 7:38).
Mae’r Apostol Paul yn tynnu sylw at y ffaith mai rhodd yw bywyd tragwyddol; does neb yn gallu ei hawlio. Duw sy’n ei roi: “rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd” (Rhufeiniaid 6:23).
Er mai rhodd yw bywyd tragwyddol, mae’n amlwg o sawl man yn y Testament Newydd nad yw hynny’n golygu nad oes cyfrifoldeb arnom i geisio’r bywyd hwn. Felly, dyma Iesu Grist yn annerch y dorf oedd yn ei ddilyn wedi iddo eu bwydo yn wyrthiol, gan ddweud, “Gweithiwch, nid am y bwyd sy’n darfod, ond am y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol” (loan 6:27).
Efallai mai’r amod bwysicaf yn gysylltiedig a meddu’r bywyd hwn yw credu:
“Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio a mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol” (loan 3:16).
Iwan Rhys Jones, ‘Bywyd Tragwyddol’, pennod allan o Geiriau Bywyd a gyhoeddwyd gan MEC yn 2017.