Daeth Iesu allan, felly, yn gwisgo’r goron ddrain a’r fantell borffor. A dywedodd Peilat wrthynt, “Dyma’r dyn.”
Ioan 19:5
Tybed ydach chi wedi chwarae gêm “Cysylltu geiriau” (Word Association yn Saesneg). Mae’n hwyl gweld sut mae meddyliau pobol yn gweithio – plant yn arbennig, pan maen nhw yn dweud y gair cyntaf sy’n dod i’w meddwl wrth glywed gair penodol.
I mi, mae’r gair Corona yn dwyn atgofion melys iawn o gael bod ar wyliau hefo fy nain yn Neiniolen. Byddai’r lori Corona yn galw bob wythnos a minnau yn cael dewis potel dandelion a burdock bob tro.
Erbyn hyn, wrth gwrs, mae’r gair corona yn golygu rhywbeth arall ac mae’n teimlo fy mod mewn byd gwahanol iawn erbyn hyn. Mae’r corona yr ydym mor gyfarwydd ag o ar siâp coron – dyna pam yr enw. Ond er mor fawr yw effaith y goron sy’n firws, nid yw’n agos at yr effaith y mae coron arall wedi ei chael…
A dyma ni’n dod at y cyfeiriad at yr Arglwydd Iesu Grist yn gwisgo coron.
1. Mae’r goron yn dweud wrthym am y cywilydd a gyfrifwyd i’r Gwaredwr. Testun gwawd oedd y goron a dyna pam y gwasgodd y milwyr y goron o ddrain ar ei ben a’i wawdio drwy blygu glin. Rhoddwyd gwialen yn ei law a chlogyn porffor amdano, y cwbl er mwyn ei warthruddo (Math 27:28-31). Ydach chi wedi meddwl erioed pam y bu’n rhaid i’r Gwaredwr ddioddef fel hyn? Os oedd rhaid iddo farw, mae dulliau llawer mwy humane o ladd dyn. Ateb yr Ysgrythur, drwyddo draw, yw’r ateb sydd gan Bantycelyn yn yr emyn-
Fy meiau trymion, luoedd maith,
A waeddodd tua’r nen,
A dyna pam ‘roedd rhaid i’m Duw
Ddioddef ar y pren.Hwy a’th fradychodd, annwyl Oen,
Hwy oedd y goron ddrain,
Hwy oedd y fflangell greulon, gref,
Hwy oedd yr hoelion main.
Mae’r goron yn rhoi golwg i ni ar ddifrifoldeb ein pechod yn wyneb Duw Cyfiawn. Dyma’r pechod achosodd y fath ddioddefaint erchyll i’n Gwaredwr annwyl a difai.
2. Mae’r goron yn dweud wrthym am gariad anfeidrol y Gwaredwr at bechaduriaid wrth iddo ddioddef y fath erchyllterau o’i wirfodd er ein mwyn. Dyma’r unig obaith i bechaduriaid, fod Mab Duw yn rhoi ei fywyd i lawr yn aberth ac yn iawndal dros ein pechodau. Doedd dim llwybr arall. A dyma ni, heddiw yn gallu darllen yr hanes – fe ddigwyddodd! Mae’r taliad wedi ei roi, mae’r pris wedi ei dalu ac mae popeth yn barod!
Fy mhechod oedd y bicell fain
A’r hoelion dur a’r goron ddrain
Ond clywais lais maddeuant rhad
O’i enau glân yn atsain.
Mae’r goron yn dweud wrthym fod yna faddeuant i bechaduriaid oherwydd aberth mawr digonol yr Arglwydd Iesu Grist.
3. Mae’r goron ddrain yn dweud wrthym hefyd am yr addewid sydd yn yr efengyl i bob Cristion – addewid am “goron y bywyd” (Datguddiad 2:10). Mae’n dweud wrthym am fuddugoliaeth y Gwaredwr ar angau a’r bedd ac mai ef yw’r “blaenffrwyth” y bydd pawb arall yn ei ddilyn i’r gogoniant.
Ar y diwrnod hwnnw yn Jerwsalem, roedd Iesu o Nasareth yn edrych yn wan iawn ac yn destun gwawd a dyna ’r olwg sydd gan y byd ohono o hyd. Ond mae’r gwirionedd yn dra gwahanol gan mai ef yw’r brenin! Roedd yn frenin yn Jerwsalem, yn frenin ar Golgotha ac ef yw’r brenin heddiw hefyd ar ddeheulaw Duw. Mae’n teyrnasu ac yn eiriol, yn gwarchod a gofalu, a bydd yn sicrhau fod pob un o’i blant yn derbyn “anniflanedig goron y gogoniant” (1 Pedr 5:4 BWM).
Am beth fyddwn ni’n meddwl heddiw, tybed, pan glywn y gair “corona”?
Cadwch yn saff ac yn iach – ym mhob ystyr.
Dewi Tudur (Eglwys Efengylaidd Ardudwy)