“gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist.”
Philipiaid 1:6
Er bod meddu ar hyder yn bwysig i lawer ohonon ni, gan amlaf hunan-hyder sydd bwysicaf i’r mwyafrif. Ond pan fydd amgylchiadau bywyd yn ein bwrw oddi ar ein hechel, yn tanseilio a hyd yn oed yn dinistrio’n hunan-hyder gallwn deimlo’n glwyfedig a digalon. Roedd Philipi nid yn unig yn ddinas Rufeinig o bwys, ond roedd iddi hefyd statws fel prifddinas daleithiol. Hawdd credu, felly, fod ynddi nifer sylweddol o bobl hyderus. A byddai’r rheiny, yn arweinwyr milwrol, dysgawdwyr, athronwyr a gladiatoriaid yn rhoi i’r ddinas ymdeimlad cryf o hunanbenderfyniad a hunanddibyniaeth. Roedd rhai yn ceisio dylanwadu ar yr eglwys yn Philipi trwy ddysgu mai hyder yn y cnawd a chadw’r gyfraith oedd yn dod â pherson i’r berthynas iawn â Duw. Ym Mhennod 3 (adnodau 5&6) mae Paul yn rhestru’r rhesymau pam roedd ef, yn y gorffennol, wedi ymddiried yn yr union bethau hynny. Roedd ei gefndir fel Iddew a Pharisead wedi rhoi iddo’r hyder crefyddol hwnnw sy’n dibynnu ar hunan-ymdrech a gweithredoedd moesol. Ond mae’n awr yn eu hystyried yn golled ac yn ysbwriel o’u cymharu â’r hyder
sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar sail ffydd (3:9).
Pa fath o hyder, felly, sydd ei angen arnom ni fel Cristnogion i gynnal a chryfhau ein ffydd?
Wel, mae Philipiaid 1:6 yn hollol glir – mae’n hyder ni yn “yr hwn a ddechreuodd…waith da”. Nid yn ein gweithredoedd, y pethau rydym ni wedi’u cyflawni, ein doniau na’n hymdrechion ond yng ngwaith da ein Harglwydd. Roedd ef wedi dechrau’r gwaith da hwnnw yn Philipi trwy agor calon Lydia ac eraill, ac roedd wedi ymrwymo i’w orffen. Yng ngeiriau emyn A.M.Toplady (cyf. Dafydd M. Job) “Y gwaith a ddechreuodd Ei ras Ei fraich a’i cyflawna’n ddi-oed.”
Wrth adrodd hanes y Creu yn nwy bennod gyntaf Genesis mae’r Gair yn dweud i Dduw ddechrau’r gwaith ac ar ddiwedd y chweched dydd orffen “y nefoedd a’r ddaear…” (Gen. 2:1). Ac wrth farw ar y groes llefodd Iesu â llais uchel “Gorffennwyd”. Roedd y gwaith o’n hachub wedi’i lwyr gwblhau. Felly, mae’n hyder ni’n gyfan gwbl yng ngwaith gorffenedig Crist ar ein rhan. Mae’n “waith da” oherwydd ei fod yn seiliedig yn Nuw ei hun, ac wedi’i gyflawni gan ei Fab. Mae ei darddiad yng nghymeriad a bwriadau perffaith Duw. Ei fodolaeth a’i natur annherfynol, anfeidrol ac anchwiliadwy ef sy’n cadarnhau popeth mae’n ei wneud ynom ni a throsom ni.
Mae Paul yn mynd yn ei flaen (Philipiaid 1:7) i ddweud bod cyd-gyfranogi ag ef yng ngras Duw yn “waith da”. Gwelwn unwaith eto nad ymdrechion dynol sy’n sicrhau ein hyder ond gras anhaeddiannol Duw. Mae gras yn achub, yn cefnogi ac yn cynnal “gwaith da” Duw. Felly mae’n hyder a’n sicrwydd yn gyfan gwbl yn ei ras unigryw ef. Mae gras Duw yn helaeth, yn gyfoethog ac yn rhad. Oherwydd hynny gall ein hyder fod yn gadarn ac yn ddiysgog pan fo sialensiau ac anawsterau o bob math yn ceisio tanseilio’n ffydd. Trown yn ôl bob tro at allu ac ymrwymiad Duw “i lwyr achub (am byth) y rhai a ddaeth ato ef”. Gall “dydd olaf” Crist ymddangos yn bell i ffwrdd yn y dyfodol ond, yn ôl Paul (2 Timotheus 1:12), mae Duw wedi ymrwymo “i gadw’n ddiogel hyd y Dydd hwnnw yr hyn a ymddiriedodd i’m gofal”.
Mae hyder o’r fath yn fy nghymhwyso ar gyfer gweddi, gwasanaeth, haelioni, tangnefedd a llawenydd yn yr Arglwydd. Ef hefyd sy’n rhoi i mi’r sylfaen i “weithio allan” fy iachawdwriaeth “mewn ofn a dychryn” (Philipiaid 2:12). Nid yw gwir hyder yn Nuw byth yn arwain i hunanfodlonrwydd a beiddgarwch ond, yn hytrach, i ddyfalbarhad a gwasanaeth selog yn y gwaith Cristnogol. Mae Timotheus ac Epaffroditus sy’n cael eu henwi yn ail ran y bennod, ynghyd â Paul ei hun wrth gwrs, yn esiamplau o sut mae ymddiried yng ngwaith da Duw yn ysgogi’n gwasanaeth a’n parodrwydd i fod yn gwbl ymroddedig.
Felly, heddiw, mwynhewch yr hyder sy’n deillio o ffydd yng Nghrist a gwasanaethwch ef yn hyderus ble bynnag y mae ef wedi’ch gosod.
Meirion Thomas, Malpas Road