Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 29 Mehefin 2020

29 Mehefin 2020 | gan Steffan Job | Rhufeiniaid 5

Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

Rhufeiniaid 5:1

 

Mae yna lawer o bethau pwysig yn ein byd ni, ond does dim yn fwy pwysig na Duw. Duw sydd wedi creu’r cosmos, sydd wedi rhoi trefn i bob dim ac sy’n cynnal y cyfan. Duw yw’r un sy’n rhoi ystyr i’r byd a’n bywydau a does dim yn fwy pwysig na gogoneddus.

Peth ofnadwy yw bod mewn sefyllfa lle nad ydym mewn heddwch gyda’n crewr, ond dyma sefyllfa naturiol pob un ohonom. Rydym yn elynion iddo, yn farw yn ein pechodau ac heb obaith yn y byd. Roeddwn yn darllen llyfr David Nott (War Doctor) yn ddiweddar lle’r oedd yn disgrifio’r sefyllfa erchyll o orfod gweithio mewn gwlad oedd yng nghanol rhyfel. Roedd yn ddirdynol clywed am y dioddefaint ar perryg ofnadwy oedd gymaint o bobl yn ei ddioddef– ond er mor erchyll yw hyn, nid yw’n cymharu â bod mewn rhyfel â Duw ei hun. All dim sefyllfa fod yn fwy peryglys i ni, ac all dim fod yn fwy pwysig na dod i heddwch â Duw.

Dyna ryfeddol felly ein bod bellach mewn heddwch â Duw drwy Iesu Grist! Rydym wedi ein cyfiawnhau drwy ffydd gan fod Iesu wedi cael ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a’i gyfodi i’n cyfiawnhau ni (Rhufeiniaid 4:25). Dyma sylfaen gadarn i sefyll arni.

Ein braint ni ar ddechrau wythnos arall yw gwybod fod Duw yn gwennu arnom. Beth bynnag a ddaw rydym yn gwybod yn sicr y bydd Duw gyda ni yn gweithio drwy’r Ysbryd i’n galluogi i ddwyn gogoniant iddo ef!

Steffan Job (Capel y Ffynnon)​