Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 28 Mehefin 2020

26 Mehefin 2020 | gan Mari Jones | Rhufeiniaid 8

Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw. Ac nid y greadigaeth yn unig, ond nyni sydd â blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau’n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed.

Rhufeiniaid 8:22-23

 

Amser Gwell i Ddyfod

Mae marwolaeth yn wynebu pob peth byw. Dyna sy’n cyfrif am yr ofn a nodwedda bob creadur. Tipyn o orchwyl y rhan amlaf yw denu creadur i’w ddofi, a’i gael i roi ei ofn o’r neilltu. Er troedio’n ysgafn, ysgafn, camp yw rhoi llaw ar oen bach sy’n cysgu’n drwm yn y cae neu nesáu at ditw tomos a ddaw i bigo corneli’r ffenestri. Dim ond gweld eich cysgod, ac i ffwrdd â nhw am eu heinioes. Ie, am eu heinioes.

Ofn cynhenid sy’n peri bod creaduriaid diamddiffyn fel y ddafad a’r fuwch yn cnoi eu cil. Mae Duw wedi rhoi amddiffyniad naturiol i bob creadur, a dyma eu hamddiffyniad hwy. Galluoga hwynt i brysuro i hel eu tamaid, gan ei wthio’n frysiog i’w cylla. Yna, pan gânt eu digoni, a phan dybiant eu bod yn ddigon diogel, ciliant i gornel dawel a galw’r bwyd yn ôl i’w ail-gnoi’n hamddenol braf ac yn rhydd o bob pryder.

Rhyw fyw felly mewn ofn yw hanes pob creadur. Cilio o lwybr y twrch yw unig ddiogelwch chwilod a phryfetach y pridd. Os dengys y pryfyn genwair ei big uwch daear, fe wêl iar neu aderyn arall ddefnydd ham ynddo i frecwast. Pan fydd cyw i ginio ar ei fwydlen, llygadrythu am gyfle i’w difa hwythau a wna’r llwynog. Dyna greulon yw anifeiliaid i’w gilydd. Nid rhyfedd bod rhywbeth cynhenid mewn anifail yn dweud wrtho fod amser gwell i ddyfod. ‘Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw’ (Rhufeiniaid 8:22).

Darlun trist yw hwnnw ar ôl arloesi darn o fynydd, clirio rhedyn neu goed – ‘codi daear las ar wyneb anial dir’ fel Alun Mabon – a chael fod y cyfan yn ofer! Heb ymdrech barhaol i gadw’r hen dyfiant i lawr a rhoi siawns i’r newydd, afradu egni yw’r cyfan. Er cystal y cemegau diweddaraf, drwy chwys dy wyneb a dycnwch tractor y bwytêi fara. ‘Trechaf treisied, gwannaf gwaedded’ yw hi ym myd llysiau ac anifeiliaid.

Do, condemniwyd y ddaear a’i chynnwys yn ogystal â dyn fel canlyniad i’r cwymp yn Eden. Dyma’n ddi-os ffeithiau bywyd nad oes newid i fod arnynt, er cymaint ymdrech dyn i’w dad-wneud.

Nid pleser digymysg yw byw o fewn yr hen gorff yma bob amser. Daw blinder a phoen yn fuan ar y daith. Fe wrthyd ambell aelod hyd yn oed weithredu o gwbl. Er i driniaeth lawfeddygol adfer ei ddefnyddioldeb, peidio yn gyfan gwbl a wna yn ddiweddarach.

Daw enaid a chydwybod dyn yn un â Duw pan y’i mabwysiedir yn blentyn iddo Ef yma ar y ddaear. Ond pan atgyfodir ni ar lun a delw Crist cawn ein mabwysiadu, gorff ac enaid, i berffeithrwydd llawn. Y pryd hynny dyna fydd hanes y greadigaeth a’i chynnwys – daear newydd a nefoedd newydd. Ac fe baid pob ofn ymysg y creaduriaid: ‘Fe drig y blaidd gyda’r oen, fe orwedd y llewpard gyda’r myn; bydd y llo a’r llew yn cydbori, a bachgen bychan yn eu harwain. Bydd y fuwch yn pori gyda’r arth, a’u llydnod yn cydorwedd; bydd y llew yn bwyta gwair fel ych. Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb, a baban yn estyn ei law dros ffau’r wiber. Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd, canys fel y lleinw’r dyfroedd y môr i’w ymylon, felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD’ (Eseia 11:6-9).

Yr wyf fi’n cyfrif nad yw dioddef-iadau’r presennol i’w cymharu â’r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni. (Rhufeiniaid 8:18)

Mari Jones, Yng Nghysgod y Gorlan, a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.